Mae dau ddyn wedi cael eu harestio am droseddau cyffuriau yn dilyn chwiliad mewn tŷ yng Nghaergybi.
Mi wnaeth yr heddlu stopio a chwilio dyn a chanfod bod ganddo gyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant.
Mi aeth swyddogion i chwilio’r tŷ welon nhw’r dyn yn dod ohono, ac mi gafodd dyn arall ei arestio o dan amheuaeth o feddu gyda’r bwriad i gyflenwi, ar ôl i swm sylweddol o gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth C gael eu darganfod.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae’r ymchwiliad yn parhau.

Dywedodd Arolygydd Ardal, Wayne Francis: "Mae’r tîm ar Ynys Môn yn ymroi mynd ar drywydd y rhai sy’n parhau i gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i’n cymunedau ni."
"Nid yn unig drwy warantau a dyddiau gweithredu, ond hefyd drwy ein gweithgareddau plismona dyddiol, drwy wrando ar y gymuned a gwneud y gorau o’r grymoedd sydd ar gael i ni."


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi