Mae'r heddlu wedi cael amser ychwanegol i gwestiynnu dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth mewn fflatiau yng Nghaergybi.
Cafwyd hyd i gorff dyn 53 oed gan y gwasanaethau brys yn Llys Watling ar Ffordd Llundain yn oriau mân bore Sadwrn.
Datganwyd bod y dyn lleol wedi marw yn y fan a'r lle gan barameddygon.
Cafodd dyn 33 oed, sydd hefyd yn byw yn yr ardal, ei arestio yn dilyn y darganfyddiad.
Mae ymholiadau o drws i drws wedi bod yn digwydd yn yr ardal, ac mae ditectifs yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ddod ymlaen.
Dywedodd y Prif Ditectif Arolygydd Richard Sidney o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'n swyddogion yn parhau yn y cyfeiriad tra bod ein hymholiadau'n parhau."
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cydweithrediad tra bod swyddogion yn parhau yn y lleoliad."
Mae'r heddlu hefyd yn annog y cyhoedd i osgoi dyfalu ynghylch y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â'r farwolaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu‘r rhif cyfeirnod 26000852942.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr