Mae tri o bobl wedi cael eu holi yn dilyn byrgleriaeth yng Nghaernarfon dros y penwythnos.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Ffordd y Gogledd ddydd Sul yn dlyn addrodiad bod offer wedi cael ei ddwyn.
Mae rhai o'r eitemau sydd wedi'u dwyn wedi cael eu hadfer a'u dychwelyd i'r perchennog.
Cafodd dau ddyn, 50 a 55 oed, eu harestio ar amheuaeth o fyrgleriaeth ac maent wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol ers hynny.
Cafodd dynes 43 oed ei harestio ar amheuaeth o drin nwyddau wedi'u dwyn ac mae wedi'i rhyddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau'n parhau.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y lladrad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ewch i'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000410984.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr