Mae dyn o Gaernarfon wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o wneud bygythiadau â chyllell yn gyhoeddus.
Cafodd Daniel Cook, 30 oed, ei arestio yn dilyn aflonyddwch ar yr ystâd Gallt y Sil ddydd Gwener diwethaf.
Ymddangosodd yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun wedi'i gyhuddo o feddu ar gyllell mewn man cyhoeddus.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno i'w ddedfrydu ar ddydd Iau (18 Mehefin).


Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr