Mae ymosodwr rhyw o Gaernarfon wedi cael ei garcharu am bron i 17 mlynedd.
Mi wnaeth Sion Evans gam-drin a rheoli ddynes, a gwneud iddi hi ddioddef ymosodiadau corfforol a rhywiol.
Plediodd y dyn 33 oed yn euog i ddefnyddio gorfodaeth a rheolaeth, ond mi wadodd ymosod yn rhywiol.
Mi ganfuwyd yn euog gan reithgor yn dilyn achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Mai.
Mi achosodd cyfres o ymosodiadau corfforol a rhywiol Evans i’r ddynes ofni am ei bywyd.
Mi dagodd hi tan nad oedd hi’n gallu anadlu ac, mewn digwyddiad ar wahân, mi falodd sgrin wynt ei char mewn tymer.
Mi achosodd ei gam-drin a’i fygythiadau i’r ddynes ofni fynd i gysgu a riportio ei ymddygiad i’r heddlu.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, mi dderbyniodd Evans ddedfryd estynedig o 16 mlynedd a 9 mis.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Dominique Swift o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ymddygiad Evans wedi cael effaith gydol oes ar ei ddioddefwr, fydd yn dioddef y trawma o’r trais a’r cam-drin gyflawnodd o yn ei herbyn am byth."
"Mi gododd Evans ofn dychrynllyd arni hi, ac mi roedd hi’n byw mewn ofn o’i weithrediadau nad oedd modd eu darogan ac afreolaidd, wnaeth iddi hi ofni am ei bywyd hi. Mi achosodd o drawma pellach drwy orfodi’r ddynes ddioddef achos llys, ac ail-fyw’r digwyddiadau dychrynllyd."
“Dwi’n cymeradwyo ei dewrder hi wrth ddod atom ni a cheisio help. Dwi’n gobeithio fydd y ddedfryd hon yn caniatáu iddi hi symud ymlaen gan wybod na all o gysylltu efo hi eto."
"’Da ni’n parhau bod yn ddi-baid wrth erlid y rhai sy’n achosi trais i ferched a genethod, a’u rhoi nhw o flaen eu gwell. Os ‘da chi wedi dioddef rhywbeth tebyg, siaradwch efo ni ac ymddiriedwch ynddo ni. ‘Da ni yma ar eich cyfer chi."
"Mae ymdrin â thrais yn erbyn merched a genethod yn parhau bod yn flaenoriaeth i’r heddlu, ac mi wnawn ni barhau erlid troseddwyr yn ddi-baid er mwyn eu rhoi nhw o flaen eu gwell."
Cafodd Evans ei wahardd hefyd rhag cysylltu â'i ddioddefwr trwy orchymyn atal penagored ac mae’n rhaid iddo gofrestru efo’r heddlu am gyfnod penagored.


Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi
Criwiau'n delio â thân gwyllt Pentrefelin
Gostyngiad mawr mewn pobl ifanc 'Neet'