Carcharu dyn am cyfres o droseddau ym Mangor

Friday, 1 May 2026 01:12

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae lleidr toreithiog o Fangor wedi cael ei garcharu yn dilyn cyfres o droseddau cyn y Nadolig diwethaf.

Cafodd Simon Lilley ei arestio yn dilyn cyfres o digwyddiadau o gwmpas y ddinas ym mis Rhagfyr y llynedd, gan gynnwys bygleiaeth breswyl.

Arestiwyd Lilley, 44 oed, yn gan swyddogion ger safle’r digwyddiad, lle cafodd ei ddarganfod efo nifer o eitemau wedi’u dwyn.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, cafodd Lilley ei ddedfrydu i ddwy flynedd a hanner yn y carchar ar ôl cael ei gael yn euog o sawl trosedd.

Dyweddod Jamie Owens, arolygydd ardal Gogledd Gwynedd o Heddlu Gogledd Cymru: "Hoffwn ddiolch i’r swyddogion am eu gwaith diflino dros fisoedd lawer i ddod â’r achos hwn i'r llys."

"Mae’r canlyniad hwn yn adlewyrchu ymdrech ymchwiliol sylweddol a chydweithio agos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron."

"Mae byrgleriaeth yn drosedd hynod ofidus sy’n gallu cael effaith emosiynol barhaol ar ddioddefwyr, ac nid oes gan le o gwbl yn ein cymunedau."

"Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y rhai sy’n cyflawni byrgleriaeth yn ddi-baid ac yn sicrhau bod troseddwyr yn cael eu rhoi o flaen y llys."

"Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau’r cyhoedd a gefnogodd y swyddogion yn ystod yr ymchwiliad hwn."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 8:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'