Carcharu dyn am fyrgleriaethau yn Amlwch

Tuesday, 21 April 2026 16:30

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn 19 oed a wnaeth gyflawni byrgleriaeth yn nhŷ cwpl oedrannus wrth iddynt gysgu wedi cael ei garcharu.

Pleidodd Callum Jones yn euog i ddau gyhuddiad o fyrgleriaeth a lladrad ar Ffordd Porth Llechog yn Amlwch ym mis Tachwedd y llynedd.

Defnyddiodd fwyell i dorri i mewn i'r porch a'r garej yng nghartref cwpl oedrannus, gan eu difrodi. Fe wnaeth hefyd ddiffodd eu cyflenwad nwy, gan adael y cwpl yn oer yng nghanol y gaeaf.

Ar yr un noson, torrodd Jones hefyd i mewn i sied gyfagos, gan achosi difrod pellach.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, cafodd Jones, o Fangor, ei ddedfrydu i ddwy flynedd ac wyth mis yn y carchar am y lladradau.

Ond roedd Jones hefyd wedi derbyn dedfryd ohiriedig yn flaenorol a chafodd hon ei hactifadu yn dilyn y troseddau, gan ddod â chyfanswm ei ddedfryd i dair blynedd a phedwar mis.

Dyweddod y Ditectif Gwnstabl Erin Davies o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Callum Jones yn adnabyddus yn yr ardal leol am achosi problemau yn y gymuned."

"Bydd y ddedfryd hon yn rhyddhad i'r rhai sydd wedi dioddef, gan wybod na fydd yn gallu achosi niwed pellach i drigolion Amlwch."

"Dylai pawb deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain ond fe wnaeth gweithredoedd Jones achosi cryn ofid a dioddefaint i'r rhai yr oedd yn eu targedu."

"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid, cymunedau lleol, a dioddefwyr i atal trosedd, cefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan drosedd a sicrhau cyfiawnder."

Cafodd Jones hefyd ei wahardd hefyd rhag cysylltu â'i ddioddefwyr fel rhan o orchymyn atal 10 mlynedd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'