Carcharu dyn am ymosod ar ei gyn-bartner

Wednesday, 29 April 2026 11:11

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl ymosod ar ei gyn-bartner yn ei chartref.

Plediodd Leon Thomas, 34 oed o Llan Ffestiniog, yn euog i ymosod gan achosi niwed corfforol a difrod troseddol yn dilyn aflonyddwch ym Mlaenau Ffestiniog yn oriau mân ddydd Llun.

Cafodd ei ddedfrydu yn y llys lai na 36 awr ar ôl ei arestio.

Mi ddechreuodd Thomas fod yn dreisgar ar ôl i’w gyn gymar ofyn iddo adael ei chartref. Mi achosodd ddifrod i’w heiddo cyn ei tharo dro ar ôl tro yn ei hwyneb.

Mi fedrodd hi ei gael o allan o'r tŷ, ond mi ddychwelodd ac mi geisiodd fynd i’r tŷ unwaith eto, drwy gicio ei drws ffrynt a’i drws cefn, gan achosi difrod pellach. Mi aeth swyddogion i’r cyfeiriad a dod o hyd i Thomas gerllaw.

Yn llys ynadon Caernarfon ddydd Mawrth, dedfrydwyd Thomas i 35 wythnos yn y carchar.

Dywedodd Ditectif Gwnstabl Annie Britton o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Thomas wedi profi ei fod yn berygl i ferched, wedi iddo gyflawni troseddau cam-drin domestig o’r blaen."

"Mi ddylid canmol gweithrediadau dewr y dioddefwr wrth ei gael allan o’i thŷ. Dwi’n gobeithio ei bod hi’n cael tawelwch meddwl drwy’r camau cyflym a gymerwyd er mwyn sicrhau’r ddedfryd hon."

"’Da ni’n gwbl ymroddgar i warchod dioddefwyr cam-drin domestig a dod â throseddwyr o flaen eu gwell. ’Da ni’n annog unrhyw un sy’n profi cam-drin i gysylltu efo ni – mi wnawn ni wrando, eich helpu chi ac ymchwilio’n drwyadl."

Cafodd Thomas ei wahardd hefyd rhag mynd at ei ddioddefwr am dair blynedd o dan Orchymyn Gwarchod Cam-drin Domestig (DAPO).

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'