Mae dyn o Nant Peris a gyfaddefodd geisio siarad hefo genethod ifanc ar-lein wedi cael ei garcharu.
Dechreuodd Elwyn Jones siarad hefo pwy oedd yn credu oedd yn ferch 13 oed ar cyfryngau cymdeithasol ym mis Tachwedd y llynedd.
Anogodd eu cyfathrebu i fod yn rhywiol ac anfonodd ddelweddau anweddus iddi.
Nid oedd yn gwybod mai proffil ffug oedd hwn, a chafodd ei arestio gan yr heddlu.
Plediodd Jones, 64 oed, yn euog i geisio ymryd rhan mewn cyfathrebu rhywiol hefo plentyn, dosbarthu ffotograff / ffotograff ffug anweddus o blentyn a thri chyhuddiad o wneud ffotograffau / ffotograffau ffug anweddus o blentyn.
Cyfaddefodd hefyd ei fod yn meddu ar bornograffi eithafol ac yn meddu ar ddelwedd waharddedig o blentyn.
Yn Llys y Goron Caernarfon, cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar, ei wneud yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol am 10 mlynedd (SHPO), a bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Megan Roberts o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Jones wedi profi ei fod yn berygl i blant trwy geisio cyfathrebu'n rhywiol hefo geneth ifanc."
"Mae'n ffodus y tro hwn bod hwn yn broffil ffug ac nad oedd unrhyw blentyn yn dioddef ei ymddygiad ysglyfaethus. 'Da ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i warchod pob un ifanc rhag y rhai sy'n ceisio eu cam-drin."


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr