Mae dyn a wneath gam-drin ei bartner o Dolgellau am dros ddegawd wedi cael ei garcharu.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, cafodd Michael Jones ei ddedfrydu i ddwy flynedd ac wyth mis ar ôl pledio'n euog i i ddau gyhuddiad o ymosodiad gan achosi niwed corfforol gwirioneddol a chymryd rhan mewn ymddygiad rheoli neu orfodi.
Dechreuodd y cam-drin yn erbyn y dioddefwr yn 2014, yn fuan ar ôl i'w perthynas ddechrau.
Daeth yn genfigennus ac yn feddiannol, byddai'n gwneud honiadau di-sail o anffyddlondeb, roedd yn ei cham-drin yn ariannol, yn ei bychanu ac yn achosi difrod dro ar ôl tro i'w cartref.
Cyfyngodd Jones hefyd ei gallu i weld ei ffrindiau a'i theulu.
Ar Noswyl Nadolig 2021, bu'n ymosodol ac yn dreisgar tuag at y dioddefwr, gan afael yn ei gwallt a'i gwthio i'r llawr, cyn poeri yn ei hwyneb a'i chicio yn ei stumog. Yna fe wnaeth ddifrodi ei char.
Wedyn, tri diwrnod ar ôl Nadolig yn 2024, ymosododd Jones ar ei bartner unwaith eto. Fe wnaeth ei dyrnu, ei thaflu i mewn i ddrws a'i chicio dro ar ôl tro. Yna, poerodd yn ei hwyneb a'i thaflu ar draws yr ystafell.
Mi wnaeth hi ei riportio i'r heddlu ym mis Mawrth eleni, a chafodd ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa nes iddo gael ei ddedfrydu.
Cyfaddefodd hefyd iddo anfon llun o'i bidyn at ail dioddefwr i beri gofid iddi a'i bychanu ym mis Mawrth eleni.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Annie Britton, swyddog ymchwilio o Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy'n canmol y dioddefwr am ei dewrder yn riportio dros ddegawd o gam-drin ac am iddi ein cefnogi drwy gydol yr ymchwiliad."
"Er gwaethaf dod â'r berthynas i ben, parhaodd y dioddefwr i dderbyn negeseuon bygythiol gan Jones, gan gynnwys bygythiad i'w thrywanu yn ei gwddf."
"Ni ddylai unrhyw un fyw mewn ofn na theimlo'n anniogel yn eu cartref. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i amddiffyn y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig ac yn benderfynol o ddod â throseddwyr i gyfiawnder."
"Anogir unrhyw un sy'n profi camdriniaeth, neu'n poeni am les rhywun arall, i gysylltu â ni - byddwn yn gwrando, byddwn yn eich cefnogi a byddwn yn gweithredu."
Cafodd Jones ei wahardd hefyd rhag cysylltu â'i ddau ddioddefwr am oes o dan orchmynion atal.


Carcharu dyn am fyrgleriaethau yn Amlwch
Enw Maldwyn Meirionnydd ar gyfer Eisteddfod 2027
Ceisiadau ar agor ar gyfer gwobr Syr Kyffin
Porthaethwy: dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ
Senedd 2026: annog pleidleiswyr i gofrestru