Mae dyn o Gaergybi wnaeth gynnig cyflenwi cocên i blentyn wedi cael ei garcharu am 22 mis.
Cafwyd lluniau anweddus ar ddyfeisiau digidol yn perthyn i Joshua Krumstets, a oedd hefyd yn tyfu canabis yn ei gartref ar Ffordd Porthdafarch.
Plediodd y dyn 37 oed yn euog i gynhyrchu canabis, cynnig cyflenwi cyffuriau Dosbarth A a thri trosedd o greu delweddau anweddus o blant.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher, mi dderbyniodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol ac mae'n rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhywiol am ddeng mlynedd.
Dyweddod Ditectif Gwnstabl Sarah Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Mi wnaeth Krumstets edrych a meddu rhai delweddau a fideos gofidus o blant ifanc ar ei declynnau."
"Mi gynigiodd gyflenwi cyffuriau i blentyn, ac mae o wedi cael ei ddal ddwywaith erbyn hyn yn tyfu canabis yn ei eiddo. Dwi’n croesawu dedfryd y llys."


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr