Carcharu dyn wedi ymosodiad rhywiol ar ferch

Thursday, 27 August 2026 16:48

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl rhwydo ac ymosod yn rhywiol ar ferch yn ei harddegau yng Nghaergybi.

Plediodd Callum Jaxon, sydd heb gyfeiriad sefydlog ond o ardal Glannau Mersi, yn euog i chwe throsedd gan gynnwys dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ym mis Mawrth ac Ebrill y llynedd.

Cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar a'i wahardd rhag cysylltu â'i ddioddefwr am oes.

Daeth Jaxon, 31 oed, i gysylltiad hefo'r ferch ar-lein cyn cyfarfod hefo hi wyneb yn wyneb. Ar adegau, byddai'n ei chodi o'r ysgol yn ei gar.

Roedd yn trafod cael rhyw hefo hi'n rheolaidd, ac yn defnyddio iaith rywiol hefo hi, er ei fod yn gwybod ei hoedran hi ac yn ymwybodol ei bod yn fregus.

Ar un achlysur pan wnaethon nhw gyfarfod, dechreuodd gusanu ei brest yn ddwys heb ei chaniatâd. Er gwaethaf ceisio ei wthio i ffwrdd, gwnaeth hynny eto, gan adael clais ar ei chroen. Eiliadau yn ddiweddarach, cymerodd ran mewn gweithgaredd rhywiol hefo'r dioddefwr heb ei chaniatâd.

Ddyddiau'n ddiweddarach, gofynnodd i'r dioddefwr dynnu'r holl negeseuon rhyngddyn nhw oddi ar ei ffôn, gan rybuddio y gallai fynd i drafferth pe bai hi ddim.

Plediodd Jaxon yn euog hefyd i cyfathrebu’n rhywiol hefo plentyn, anfon neges er mwyn trefnu cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol hefo plentyn, cyfarfod hefo geneth yn dilyn proses o’i rhwydo hi a chymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol hefo geneth.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, cafodd Jaxon orchymyn atal yn erbyn ei ddioddefwr am oes a gorchymyn atal niwed rhywiol am ddeng mlynedd.

Mae'n rhaid iddo hefyd gofrestru fel troseddwr rhyw am oes.

Dywedodd y swyddog ymchwilio, Ditectif Gwnstabl Leslie Ellis o Heddlu Gogledd Cymru: "Fe wnaeth Jaxon rwydo'r dioddefwr ac er gwaethaf gwybod ei hoedran hi a pha mor fregus oedd hi, parhaodd i gyfarfod hefo hi i'w chanlyn hi ar gyfer ei foddhad rhywiol ei hun."

"Roedd y dioddefwr yn ddewr wrth ddod ymlaen i roi ei hadroddiad, sydd wedi arwain at ddedfryd Jaxon heddiw."

"'Da ni'n annog pawb sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol i ddod ymlaen hefo'r hyder y byddan nhw'n cael eu clywed ac yn derbyn help."

"Ni fydd trais yn erbyn merched a genethod yn cael ei oddef ac mae'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru. Byddwn ni'n parhau i fynd ar drywydd y rhai sy'n gyfrifol ac yn dod â nhw o flaen eu gwell."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Jiwcbocs gyda Vaughan a Llinos

    10:00am - 1:00pm

    Cerddoriaeth wych, sgwrs ysgafn a digon o hwyl gyda Vaughan a Llinos bob bore Sadwrn!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'