Mae dyn a oedd yn gyrru dacsi wedi'i ddwyn ar y ffordd anghywir ar yr A55 wedi cael ei garcharu am dair blynedd.
Cafodd beiciwr hefyd anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan gerbyd a yrrwyd gan Darragh O'Grady yng Nghaergybi ym mis Awst.
Cafodd nifer o gerbydau a oedd wedi’u parcio eu difrodi hefyd.
Plediodd O'Grady, heb gyfeiriad sefydlog ond yn wreiddiol o’r Iwerddon, yn euog i gyfanswm o saith cyhuddiad, gan gynnwys lladrad, achosi anaf difrifol, gyrru'n beryglus, cymryd cerbyd yn anghyfreithlon dan amgylchiadau gwaethygol, a methu darparu sampl i’w ddadansoddi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi disgrifio ei weithredoedd fel "ddi-hid ac yn gynhenid beryglus".
Ar nos Lun 24 Awst, fe wnaeth O'Grady ddwyn bws mini o Ffordd Holborn gan gwmni lleol, Tacsi Zoe, ar ôl cyrraedd y porthladd Caergybi ar fferi yn gynharach y diwrnod hwnnw.
Cafodd yr ystafell reoli'r heddlu nifer o alwadau oherwydd y modd yr oedd yn gyrru ar y ffordd gan achosi i ddefnyddwyr eraill y ffordd orfod gwyro allan o’i ffordd.
Yn fuan ar ôl hyn, gwrthdarodd â beiciwr ar yr A5 ar Ffordd Llundain, a gafodd ei gludo i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol a pharhaol.
Ni stopiodd O'Grady yn dilyn y gwrthdrawiad, a pharaodd i yrru'r tacsi tua'r gorllewin ar yr A55, gan deithio i'r cyfeiriad anghywir.
Mewn deunydd fideo a ryddhawyd gan yr heddlu, gwelir O'Grady yn codi ei fawd tuag at y camera.

Llwyddodd swyddogion o’r Uned Troseddau Ffyrdd i atal y traffig yn ddiogel cyn defnyddio dyfais stopio cerbydau i atal y tacsi ger Rhosneigr, lle cafodd O'Grady ei arestio.
Yn dilyn chwiliadau daeth swyddogion o hyd i gardiau banc a ffôn symudol a oedd wedi cael eu gohebu fel rhai oedd wedi cael eu dwyn ar y fferi yr oedd O’Grady wedi teithio arni yn gynharach y diwrnod hwnnw.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd wedi gwario dros £200 o arian y dioddefwr, ac yn y llys, plediodd yn euog i dwyll drwy gynrychioliad ffug.
Roedd O'Grady dan ddylanwad diod a chyffuriau ar ddiwrnod y troseddau, ar ôl cymryd valium a chocên ac yfed alcohol.
Ym Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, cafodd O'Grady ei garcharu am dair blynedd a'i wahardd rhag gyrru am bum mlynedd a hanner.
Yn dilyn dedfrydu, dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Nick Evans o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd gweithredoedd O’Grady y noson honno yn ddi-hid ac yn gynhenid beryglus."
"Yr A55 yw’r brif ffordd i Borthladd Caergybi ac, ar y terfyn cyflymder cenedlaethol, mae’n ffodus dros ben na chollodd neb eu bywyd."
"Heb ymateb dewr y swyddogion wrth ddelio gyda’r sefyllfa, gallai’r canlyniadau fod wedi bod yn drychinebus."
"Hoffwn ddiolch unwaith eto i’r gymuned am dynnu sylw’n gyflym at ymddygiad O’Grady ac am eu cefnogaeth drwy gydol yr ymchwiliad hwn."
Bydd O'Grady yn rhaid iddo basio prawf gyrru estynedig cyn cael gyrru yn y DU eto.


Pennaeth Betsi yn amddiffyn adolygiad gofal brys
Gwobrau Cymunedol MônFM: rhestr fer wedi'i datgelu
Cydnabyddiaeth i safleoedd gwersylla yng Ngwynedd
Cyhuddo pump yn dilyn ymgyrch cyffuriau
Y Bermo: cyhuddo dyn o ymosodiad mewn siop