Cyhuddo pump yn dilyn ymgyrch cyffuriau

Friday, 6 November 2026 at 18:38

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae pump o bobl wedi cael eu cyhuddo o werthu cyffuriau yn dilyn cyfres o gyrchoedd yn ardaloedd Gwynedd a Lerpwl.

Cymerodd mwy na 60 o swyddogion heddlu ran mewn gwarantau cydamserol mewn cyfeiriadau ym Mangor, Bethel, Bethesda, Llanrug a Lerpwl fore Iau.

Daw hyn yn sgil ymchwiliad dros y saith mis diwethaf sydd wedi targedu unigolion dan amheuaeth o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A i Wynedd.

Cafodd chwech o bobl eu harestio, ac mae ditectifs wedi atafaelu swm sylweddol o gyffuriau Dosbarth A, arian parod ac asedau eraill.

Ymddangosodd dwy ddynes a dyn yn Llys Ynadon Llandudno fore Gwener.

Mae Nerys Wyn Jones, 46 oed, o Fangor a Serina Medforth, 55 oed o Bethel wedi'u cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi heroin ac mae David Hughes, 53 oed, o Bethesda yn cael ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên.

Ymddangosodd Barry Clarke, 59 oed, o Lerpwl yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Gwener, wedi’i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi heroin.

Hefyd, mae Arthur Hughes, 75 oed, o Rachub ger Bethesda, ond ar hyn o bryd yng Ngharchar Berwyn, ger Wrecsam, yn cael ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi sylweddau Dosbarth A.

Mae chweched person, a gafodd ei arestio yn ystod y cyrchoedd, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau'n parhau.

Dywedodd yr Uwch-arolygwr Arwel Hughes o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd y gweithgaredd hwn yn rhan o’n hymateb parhaus a rhagweithiol i droseddoldeb trefnedig sy’n gweithredu ar draws y rhanbarth."

"Rydym yn parhau i fod yn benderfynol o ddatgymalu'r rhwydweithiau troseddol sy'n manteisio ar bobl agored i niwed ac yn achosi niwed yn y gymuned."

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag asiantaethau partner, busnesau lleol a thrigolion i nodi, amharu ac erlid pobl a amheuir o fod yn rhan o gyflenwi cyffuriau."

"Mae cyffuriau yn difetha cymdogaethau, yn dinistrio bywydau, ac yn creu cylchoedd o ecsbloetio. Nid yn unig y mae'r rhai sy'n ceisio gwerthu cyffuriau i bobl agored i niwed yn torri'r gyfraith – maent hefyd yn parhau â'r niwed sy'n chwalu teuluoedd ac yn tanseilio diogelwch cymunedol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Meurig Thomas-Williams

    9:00pm - 11:00pm

    Dewis Meu o gerddoriaeth gwych ac ymlaciol ar MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'