Cydnabyddiaeth i safleoedd gwersylla yng Ngwynedd

Tuesday, 10 November 2026 at 15:12

By Ystafell Newyddion MônFM

Premier Parks

Mae pedwar safle gwersylla yng Ngwynedd wedi cael eu cydnabod gan grŵp sy'n hyrwyddo parciau gwyliau yn y DU.

Mae Bryn Gloch, sydd wrth ymyl Afon Gwyrfai ym Metws Garmon a Rhyd y Galen, sy'n gorchuddio safle 20 erw ym Methel ger Caernarfon, wedi pasio archwiliadau safle gan Premier Parks.

Mae cydnabyddiaeth hefyd i barc carafanau Tyddyn Llwyn ger Porthmadog, a pharc moethus Islawffordd sydd wedi'i leoli yn agos at y traeth yn Tal-y-Bont, ger Y Bermo.

Mae dros 100 o safleoedd gwersylla a pharciau yn rhan o gasgliad Premier Parks, ar ôl cael eu hasesu yn seiliedig ar eu cyfleusterau, eu lleoliad, eu tirwedd a’u lleiniau, yn ogystal â’r hyn sydd ar gael i ymwelwyr yn yr ardal gyfagos.

Ond nid yw'r rhestr yn cynnwys unrhyw safleoedd ym Môn.

Yn ôl y llefarydd Jack Hart: "Mae Parc Carafanau a Gwersylla Bryn Gloch, Parc Carafanau a Gwersylla Rhyd y Galen, Parc Gwyliau Moethus Islawrffordd a Pharc Carafanau Tyddyn Llwyn yn cyd-fynd yn dda iawn â Premier Parks."

"Mae gan bob un ohonynt eu cymeriadau unigryw a’u lleoliadau nodedig, ac maent yn rhoi rheswm go iawn i bobl aros yn yr ardal – sy’n union yr hyn rydym yn chwilio amdano wrth lunio’r casgliad."

Mae amcangyfrifon diweddar yn awgrymu bod twristiaeth yng Ngwynedd yn werth dros £1.78 biliwn i'r sir, gan ddenu 7.75 miliwn o ymwelwyr a chefnogi tua 17,600 o swyddi.

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithio ar gynllun ar gyfer 2035, sy'n ceisio cydbwyso manteision economaidd y diwydiant twristiaeth ag anghenion cymunedau lleol, yr iaith Gymraeg a'r amgylchedd.

Mae pumed safle yng Ngwynedd, Llys Derwen yn Llanrug, eisoes yn ymddangos ar restr Premier Parks.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Meurig Thomas-Williams

    9:00pm - 11:00pm

    Dewis Meu o gerddoriaeth gwych ac ymlaciol ar MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'