Mae pennaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi amddiffyn adolygiad i ddyfodol gwasanaethau gofal brys mewn tair ysbyty.
Mae ofnau y bydd gofal cychwynnol brys yn dod i ben yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi, Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Alltwen yn Nhremadog.
Os bydd y cynlluniau'n mynd yn eu blaenau, bydd y gwasanaethau gofal brys yn cau erbyn diwedd mis Mawrth nesaf, pedair blynedd ar ôl agor.
Ond mae prif weithredwr bwrdd iechyd Gogledd Cymru yn mynnu eu bod yn anelu at "wella mynediad at ofal brys ar yr un diwrnod, nid ei leihau".
Mae Carol Shillabeer hefyd wedi gwrthod dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol bod cynlluniau i gau unedau mân Anafiadau ac ysbytai cymunedol yn y rhanbarth.
Dyweddod: "Mae’r canolfannau gofal sylfaenol brys presennol yn cyfrif am lai nag 1% o apwyntiadau practisau meddygon teulu yn yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu."
"Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried dyfodol y gwasanaeth fel rhan o adolygiad ehangach, a fydd yn nodi'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau gofal brys ar yr un diwrnod, sy'n deg, yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel, i gleifion ledled Gogledd Cymru."
"Wrth i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen, byddwn yn adolygu arferion gorau ac yn ystyried amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys y model sy'n dod i'r amlwg sef gofal cymunedol brys ar yr un diwrnod (SDUCC), rôl Fferyllfeydd Cymunedol, ac opsiynau ar gyfer canolfannau triniaeth frys."
"Bydd cyfleoedd i gleifion, cymunedau, staff a phartneriaid gyfrannu cyn y gwneir unrhyw argymhellion neu benderfyniadau."
Byddai cau'r uned yng Nghaergybi yn ergyd arall i Ysbyty Penrhos Stanley – yr unig ysbyty ym Môn – lle caewyd uned pedair gwely gan Hosbis Dewi Sant y llynedd.
Yn ôl AS Plaid Cymru, Llinos Medi, nid yw'r bwrdd wedi gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch dyfodol y gwasanaethau gofal brys.
Ond dyweddod yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn: "Mae'r ansicrwydd diweddar wedi achosi cryn bryder ymhlith staff, cleifion a chymunedau lleol, ac nid yw hynny'n deg i'r rhai sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn."
"Rwyf yn ceisio trefnu cyfarfod gyda chynrychiolwyr y bwrdd iechyd yn ystod yr wythnosau nesaf i bwyso am barhau i ddarparu gofal sylfaenol brys yng Nghaergybi ac i sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu hystyried wrth asesu opsiynau ar gyfer y dyfodol."
Ysgrifennodd yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol, Janet Finch Saunders, at y Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, gan alw arno i ymyrryd a chadw uned Caergybi ar agor.
Dywedodd yr AS Bangor Conwy Môn fis diwethaf: "Mae cau'r Ganolfan Gofal Sylfaenol Brys yn achos pryder mawr. Byddai cau'r ddarpariaeth hon ar gyfer gofal yn y gymuned yn cael effaith ddinistriol ar Ynys Môn. Mae hon yn ergyd arall i gleifion ac etholwyr ar draws Bangor Conwy Môn."
"Mae'n hanfodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn darparu cefnogaeth er mwyn i’r canolfannau hyn aros ar agor. Hebddyn nhw, gallai amseroedd aros presennol gynyddu, gan arwain at oedi mewn triniaeth."


Gwobrau Cymunedol MônFM: rhestr fer wedi'i datgelu
Carcharu gyrrwr ar ffordd anghywir yr A55
Cydnabyddiaeth i safleoedd gwersylla yng Ngwynedd
Cyhuddo pump yn dilyn ymgyrch cyffuriau
Y Bermo: cyhuddo dyn o ymosodiad mewn siop