Mae dyn 48 oed wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar weithiwr benywaidd mewn siop yn Y Bermo.
Mi gafodd yr heddlu eu galw i siop yn y dref toc wedi 1.30yp prynhawn Mercher.
Cafodd Matthew Harris o Sheffield ei arestio ychydig yn ddiweddarach yn dilyn adroddiad prydlon a disgrifiad da gan y dioddefwr.
Mae Harris wedi cael ei gyhuddo o ymosod drwy guro, ac hefyd o aflonyddu ar ail dynes.
Gwrthodwyd mechnïaeth a bydd yn ymddangos yn y llys ddydd Gwener.
Dywedodd Iwan Jones, arolygydd ardal ar gyfer De Gwynedd: "Rydym yn cymryd adroddiadau o'r math hwn o ddifrif mawr, ac fe fyddwn yn mynd ar ôl y rhai sy'n gyfrifol yn ddi-baid, fel rhan o'n hymdrechion parhaus i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched."
"Hoffwn ddiolch i'r dioddefwyr ac i bawb a gefnogodd yr ymchwiliad, gan ein galluogi i gyflwyno achos i'r Gwasanaeth Erlyn y Goron."


Dau yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ger Trawsfynydd
Apêl Noson Tân Gwyllt – "dangoswch barch"
Agor cwest i farwolaeth Michael Ward
Cipolwg cyntaf ar 'Y Streic Fawr'
Ceisio barn ar wella teithio llesol