Carcharu 'ysglyfaethwr' am gam-drin hanesyddol

Wednesday, 20 May 2026 19:15

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae cyn-arweinydd ieuenctid wedi cael ei garcharu am 15 mlynedd am gam-drin rhywiol hanesyddol yn erbyn dau fachgen ifanc.

Plediodd Paul Vaughan o'r Rhyl, yn euog i 15 trosedd o’r 1980au cynnar, gan gynnwys sawl cyhuddiad o ymddygiad anweddus gyda phlentyn ac ymosodiad anweddus.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Vaughan, 76 oed, wedi cam-drin ei ddioddefwyr dro ar ôl tro, gan gynnwys mewn pabell yn Eryri ac mewn clwb hwylio yn y Bala.

Yn 2023, cafodd ei ddedfrydu i mwy na ddeng mlynedd yn y carchar am fwy o droseddau rhywiol hanesyddol yn dilyn achos gwahanol.

Yn dilyn y dedfrydu ddydd Mercher, disgrifiwyd Vaughan fel ''ysglyfaethwr rhywiol peryglus'' gan brif dditectif o Heddlu Gogledd Cymru.

Dyweddod y Ditectif Gwnstabl Andrew Vaughan, y swyddog ymcwhilio: "Mi ddefnyddiodd ei safle er mwyn cyflawni troseddau yn erbyn dioddefwyr oedd yn ymddiried ynddo fo fel unigolyn mewn awdurdod."

"Diolch i ddewrder y dioddefwyr blaenorol  yn riportio’r cam-drin, mae rhagor o bobl wedi teimlo hyder i riportio’r digwyddiadau. Dedfryd heddiw ydy canlyniad hynny."

"Mi fuaswn i’n gofyn i unrhyw un sydd heb siarad efo ni’n barod i gysylltu efo ni, gan wybod y gwnawn ni wrando arnoch chi."

"Fel mae’r achos hwn yn dangos, mi wnawn ni bopeth posib er mwyn erlid troseddwyr a gwarchod y bobl mwyaf bregus yn ein cymdeithas."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    10:00pm - Midnight

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'