Mae ceisiadau ar agor ar gyfer Gwobr Lluniadu Syr Kyffin Williams 2027.
Cynhelir y gystadleuaeth bob tair blynedd fel teyrnged i'r arlunydd tirwedd o Llangefni - a'r gefnogaeth a roddodd i gyd-artistiaid a myfyrwyr celf.
Roedd Syr Kyffin Williams hefyd yn gefnogwr brwd a gweithgar o'r oriel. Fe gyflwynodd dros 400 o'i waith celf gwreiddiol wedi iddi agor ei drysau ym 1991.
Nod y Wobr Lluniadu yw hyrwyddo a gwobrwyo rhagoriaeth a thalent mewn ymarfer lluniadu - rhywbeth yr oedd yn ei werthfawrogi'n arbennig.
Dywedodd John Smith, trysorydd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams: "Roedd Kyffin yn hyrwyddwr brwd o'r celfyddydau yng Nghymru ac roedd bob amser yn pwysleisio pwysigrwydd yr ymarfer o luniadu."
"Roedd yn gefnogwr gweithgar a brwdfrydig o artistiaid eraill, rhai a oedd wedi sefydlu eu gyrfaoedd a rhai oedd yn dechrau fel myfyrwyr celf ifanc."
"Mae'r Wobr Lluniadu felly yn deyrnged addas i'w haelioni a'i gyfraniad i'r byd celf. Unwaith eto, mae'r Ymddiriedolaeth ac Oriel Môn yn teimlo'n freintiedig bod y gystadleuaeth luniadu wedi denu noddwyr allanol."
Cynhaliwyd y gystadleuaeth ddiwethaf yn 2024 ac fe ymgeisiodd 200 bryd hynny, gyda bron i hanner yr ymgeiswyr yn gweld eu gwaith yn cyrraedd yr arddangosfa derfynol yn Oriel Kyffin Williams yn Oriel Môn.
Mae dwy wobr sylweddol ar gael i enillwyr y gystadleuaeth. Bydd enillydd y brif wobr yn derbyn £3,000 a bydd enillydd y wobr i fyfyrwyr yn derbyn £1,000.
Ychwanegodd Nicola Gibson, rheolwr profiad ymwelwyr Oriel Môn: "Mae Gwobr Lluniadu Syr Kyffin Williams yn gyfle gwych i artistiaid o bob gallu gael arddangos eu gwaith mewn oriel gelf adnabyddus ochr yn ochr â gwaith yr artist ei hun, Syr Kyffin Williams."
"Pob tro y mae'r Wobr Lluniadu yn cael ei chyhoeddi, mae'r gwaith sy'n cael ei gyflwyno gan artistiaid proffesiynol, amatur a myfyrwyr celf yn anhygoel, ac mae'r arddangosfa bob amser yn gyffrous ac amrywiol."
Rhaid i bob cais ddod i law erbyn y 30ain o Dachwedd 2026. Cynhelir yr arddangosfa derfynol rhwng 13 Mawrth ac 11 Gorffennaf 2027.


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi