Cerbydau wedi'u hatafaelu oddi ar yrrwr heb yswiriant

Thursday, 29 October 2026 at 15:53

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu wedi atafaelu dau gerbyd a yrrwyd gan yr un dyn mewn tair diwrnod.

Fe wnaeth swyddogion ar batrôl atal cerbyd yn oriau mân fore Sadwrn diwethaf.

Datgelodd gwiriadau ei fod yn gyrru ar drwydded dros dro yn unig, a heb yswiriant. Cafodd ei arestio am yrru o dan ddylanwad sylwedd rheoledig chafodd y cerbyd ei atafaelu. 

Ond ar ddydd Llun, yn dilyn gwybodaeth a oedd yn cysylltu’r un dyn ag ail gerbyd oedd yn cael ei yrru yng Nghricieth, aeth swyddogion i'r lleoliad a chynnal gwiriadau, gan arwain at atafelu'r ail gerbyd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn aros am  ganlyniadau’r prawf gwaed yn dilyn y digwyddiad cyntaf cyn gwneud penderfyniad ynghylch unrhyw gyhuddiadau.

Dyweddod llefarydd: "Byddwn yn parhau i dargedu unigolion sy'n peryglu defnyddwyr eraill y ffordd, ond mae angen eich help chi arnom hefyd."

"Os ydych yn ymwybodol o unrhyw un sy'n gyrru heb drwydded neu yswiriant priodol, neu y credwch eu bod yn gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, rhowch wybod i ni."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Yvonne Gallienne

    1:00pm - 4:00pm

    Three hours of great music with Yvonne on MônFM!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'