Llyfrgell Caernarfon yn symud dros dro

Thursday, 29 October 2026 at 12:29

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Jaggery)

Bydd llyfrgell Caernarfon yn cael ei symud i leoliad dros dro wrth i waith ddechrau ar adnewyddiad gwerth dros £1 miliwn.

Bydd yr adeilad presennol ar Allt y Pafiliwn yn cael cyfleusterau newydd a modern, gan gynnwys mynediad newydd, defnydd gwell o'r gofod mewnol, ardal benodol i blant a phobl ifanc, canolfan gymunedol newydd a chyfleusterau mwy hygyrch.

Bydd y llyfrgell yn symud i Oriel Pendeitsh - gyferbyn â'r castell - o ganol mis Tachwedd er mwyn caniatáu i waith ailddatblygu ddechrau.

Er y bydd nifer o wasanaethau arferol y llyfrgell yn parhau ar gael, gan gynnwys benthyg ac archebu llyfrau a defnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus, bydd y ddarpariaeth yn fwy cyfyngedig yn ystod y cyfnod hwn oherwydd y gofod llai sydd ar gael yn y lleoliad dros dro.

Mae disgwyl i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn dechrau 2028 - ac yn ol Cyngor Gwynedd, bydd hefyd yn cynnwys gwaith i wella effeithlonrwydd ynni'r adeilad a lleihau costau gweithredu yn y tymor hir.

Dyweddod y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros y gymuned: "Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol Llyfrgell Caernarfon a fydd yn darparu cyfleuster modern a hygyrch i'r gymuned am flynyddoedd i ddod."

"Hoffwn ddiolch i ddefnyddwyr am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn. Edrychwn ymlaen at weld y manteision y bydd y datblygiad sylweddol yn eu cynnig i'r gymuned."

Bydd y llyfrgell yn cau rhwng ddydd Llun 9 tan ddydd Sadwrn 14 Tachwedd er mwyn symud y ddarpariaeth o Allt y Pafiliwn i Oriel Pendetish, cyn ailagor ddydd Llun 16eg Tachwedd.

Yn ystod y cyfnod, bydd blwch dychwelyd llyfrau ar gael y tu allan i'r adeilad fel y gall defnyddwyr barhau i ddychwelyd eitemau.

Dyweddod llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae'r symud yn nodi cyfnod cyffrous i’r llyfrgell wrth i waith y prosiect gychwyn a fydd yn uwchraddio’r adeilad presennol i fod yn gyfleuster modern, hygyrch a chynaliadwy ar gyfer y gymuned i’r dyfodol."

Ychwanegodd: "Bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd yn cynnal sesiwn wybodaeth yn Oriel Pendeitsh i rannu rhagor o wybodaeth am y datblygiadau a rhoi cyfle i drigolion ofyn cwestiynau am y cynlluniau yn yr wythnosau nesaf."

Mae cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer y prosiect wedi'i sicrhau drwy gyfraniadau gan Lywodraethau Cymru a'r DU, Cronfa Trawsnewid Trefi a Chyngor Gwynedd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Yvonne Gallienne

    1:00pm - 4:00pm

    Three hours of great music with Yvonne on MônFM!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'