Mae M-SParc wedi croesawu hwb o £2.5 miliwn gan Lywodraeth y DU wrth iddo ehangu ei gampws yn Ngaerwen.
Yn ôl Parc Gwyddoniaeth Menai, bydd y cyllid, a gyhoeddwyd yng Nghyllideb dydd Mercher, yn cefnogi cyfleusterau newydd a thwf busnes.
Mae gwaith adeiladu eisoes ar y gweill ar ail adeilad, Egni, a fydd yn agor yr haf nesaf gan ddarparu swyddfeydd, gweithdai a labordai newydd.
Mae Prifysgol Bangor, sy'n rhedeg M-SParc, yn dweud y bydd y buddsoddiad yn eu galluogi i ddatblygu trydydd adeilad ar y safle, yn ogystal â chanolfan newydd sydd wedi'i neilltuo i ddarparu cyfleoedd STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, rheolwr gyfarwyddwr M-SParc: "Mae’n bleidlais sylweddol o hyder yn ein huchelgeisiau ar gyfer Gogledd Cymru. Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth y DU am gydnabod y cyfle i fuddsoddi mewn arloesedd, busnesau a sgiliau yn y rhanbarth."
"Wrth i ni edrych ymlaen at agor Egni, ein hail adeilad, yn haf 2027, mae'r buddsoddiad hwn yn caniatáu i ni edrych hyd yn oed ymhellach ymlaen at ddatblygu pellach ar ein safle."
"Ein huchelgais yw creu'r gofod, y cyfleusterau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar fusnesau i arloesi, tyfu ac i lwyddo. Gyda'r cyfleoedd a ddaw yn sgil y Porthladd Rhydd a datblygiadau rhanbarthol mawr, mae gennym gyfle gwirioneddol i adeiladu rhywbeth arbennig yma."
"Yn hanfodol, mae'r buddsoddiad hwn hefyd yn ymwneud â'r genhedlaeth nesaf. Trwy ddatblygu canolfan STEM bwrpasol, gallwn ysbrydoli pobl ifanc a helpu i sicrhau bod y sgiliau a'r cyfleoedd a grëir gan fuddsoddiad yn ein rhanbarth o fudd i'n cymunedau a’n pobl ifanc am ddegawdau i ddod."
Ers agor am y tro cyntaf yn 2018, mae M-SParc wedi creu mwy na 180 o swyddi, wedi hwyluso dros 100 o interniaethau a profiadau gwaith.
Hyd yma, mae'r ganolfan wedi denu tua £7 miliwn o fuddsoddiad i'r rhanbarth, ac mae'n anelu at elwa ymhellach o'i lleoliad o fewn cynllun Porthladd Rhydd Ynys Môn.

Bydd yr arian yn cefnogi gwaith gosod ac offeru adeilad Egni – a ariannwyd drwy Gytundeb Twf Gogledd Cymru – ynghyd â’i gyfleuster STEM pwrpasol, wrth i M-SParc ehangu ei allu i gefnogi mentrau bach a chanolig (SMEs).
Dywedodd Stephen Kinnock, Ysgrifennydd Cymru: "Mae'r cyllid hwn gan Lywodraeth y DU yn fuddsoddiad yn y sgiliau a'r seilwaith sydd eu hangen i greu mwy o swyddi o ansawdd uchel ar Ynys Môn."
"Mae M-SParc eisoes wedi'i sefydlu fel lle mae ymchwil a busnes yn dod at ei gilydd i sbarduno twf economaidd. Bydd y buddsoddiad hwn o £2.5 miliwn gan Lywodraeth y DU yn gwthio hynny ymhellach, gan adeiladu ar y cyfleoedd a ddarperir gan Borthladd Rhydd Ynys Môn a'n buddsoddiad o £2.5bn mewn niwclear."

Mae cynlluniau ar gyfer y drydedd adeilad yng nghanolfan Gaerwen yn cynnwys lle ychwanegol i ddiwydiant, gan gynnwys cyfleusterau gweithdy arbenigol i gefnogi gweithgynhyrchu uwch, technolegau ynni glân ac arloesi.
Ychwanegodd yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: "Bydd y buddsoddiad hwn yn cyfrannu tuag at allu Gogledd Cymru i arloesi, at entrepreneuriaeth a datblygu sgiliau ar adeg dyngedfennol i'r rhanbarth."
"Drwy gefnogi twf M-SParc a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau a phobl ifanc, bydd yn helpu i sicrhau bod Gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i elwa ar gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg mewn meysydd fel ynni, technolegau uwch a Phorthladd Rhydd Ynys Môn."
"Mae llwyddiant hirdymor ein rhanbarth yn dibynnu ar gysylltu talent, ymchwil a menter, a bydd y buddsoddiad hwn yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni'r uchelgais honno."


Ymddeol crys rygbi i gofio Jack
Porthaethwy: cyhuddo dyn o werthu canabis
Cerbydau wedi'u hatafaelu oddi ar yrrwr heb yswiriant
Llyfrgell Caernarfon yn symud dros dro
Digwyddiad ysgol yn trafod niwed cyffuriau