Mae disgyblion mewn ysgol yng Nghaernarfon wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiad i drafod niwed cyffuriau, alcohol a fepio.
Mi gymerodd dros 130 disgybl o Ysgol Syr Hugh Owen ran mewn digwyddiad, a gododd ymwybyddiaeth o negeseuon ar sail tystiolaeth ynglŷn â pheryglon camddefnyddio sylweddau a’r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc a’u teuluoedd nhw.
Mi drefnwyd y digwyddiad gan Wasanaeth Ysgolion Heddlu Gogledd Cymru a mi ddaeth ag ystod o asiantaethau arbenigol a gweithwyr iechyd proffesiynol at ei gilydd, gan gynnwys arbenigwyr wroleg o Ysbyty Gwynedd, Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd, Iechyd y Geg y GIG, a gwasanaethau ymyrraeth gynnar CAMHS.
Dywedodd Gethin Thomas, rheolwr gwasanaeth ysgolion gan Heddlu Gogledd Cymru: "’Da ni’n hynod o ddiolchgar i Ysgol Syr Hugh Owen am gynnal y digwyddiad pwysig hwn, ac am y croeso cynnes gan yr holl asiantaethau partner."
"Mi roedd yr ymgysylltiad gan y disgyblion Blwyddyn 9 drwy gydol y diwrnod yn rhagorol. Mi wnaethon nhw wrando’n barchus, cymryd rhan yn gyfan gwbl a dangos diddordeb gwirioneddol mewn dysgu am y peryglon sy’n gysylltiedig â chyffuriau, alcohol a fepio."
"Mi obeithiwn ni y bydd y sgyrsiau hyn yn helpu disgyblion i wneud dewisiadau gwybodus a diogel. Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos pwysigrwydd atal, addysg a gwaith partneriaeth wrth helpu cadw pobl ifanc yn ddiogel."

Mi ddysgodd y myfyrwyr ynglŷn â sut gall sylweddau fel cetamin achosi difrod difrifol i’r bledren a’r system wrinol. Mewn rhai achosion, gall arwain at lawdriniaeth fawr ac angen defnyddio bag stoma.
Un o'r gwasanaethau sy'n cynnig cymorth yw 'Be Di'r Sgor?', sy'n darparu cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc rhwng 11 a 24 oed ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.
Dywedodd Paula Owen: "Mi roedd yn galonogol gweld gymaint o bobl ifanc yn ymgysylltu’n agored ac yn onest efo’r wybodaeth a’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw."
"Mae llwyddiant y digwyddiad yn dangos gwerth rhoi cyngor ffeithiol ac anfeirniadol sy’n helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus."
"Mae Be Di’r Sgôr? yn ymroddedig i weithio ochr yn ochr ag ysgolion a phartneriaid er mwyn darparu ymyrraeth gynnar a chymorth."
"’Da ni’n falch o fedru parhau’r cymorth hwnnw drwy sesiynau galw heibio wythnosol yn Ysgol Syr Hugh Owen, gan sicrhau bod disgyblion efo rhywle diogel a chyfrinachol er mwyn ceisio cyngor pryd bynnag maen nhw eu hangen."
Roedd pynciau eraill yn cynnwys iechyd corfforol a meddyliol, gwydnwch, llesiant, gwneud penderfyniadau, a hyrwyddo dewisiadau ffordd o fyw cadarnhaol.
Ychwanegodd Dafydd Gwyn, dirpwy bennaeth Ysgol Syr Hugh Owen: "’Da ni’n hynod o ddiolchgar i Wasanaeth Ysgolion Heddlu Gogledd Cymru a’r holl asiantaethau partner am gyflwyno digwyddiad mor addysgiadol ac effeithiol ar gyfer ein disgyblion ni."
"Mae’r adborth gan staff wedi bod yn hynod o gadarnhaol. Mi wnaeth ein disgyblion ni ymddwyn yn ardderchog drwy gydol y dydd, ac ymgysylltu’n aeddfed efo rhai pynciau heriol."
"Mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rôl bwysig wrth helpu pobl ifanc i ddeall y peryglon sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, a lle mae cymorth ar gael os bydd angen."


Ymddeol crys rygbi i gofio Jack
Porthaethwy: cyhuddo dyn o werthu canabis
Cerbydau wedi'u hatafaelu oddi ar yrrwr heb yswiriant
Llyfrgell Caernarfon yn symud dros dro
M-SParc yn sicrhau hwb ariannol yn y Gyllideb