Mae chwe ymgeisydd yn sefyll mewn isetholiad Cyngor Gwynedd yn ward Llanrug fis nesaf.
Cynhelir yr isetholiad ddydd Iau 9 Gorffennaf, yn dilyn ymddiswyddiad Beca Brown, a etholwyd yn aelod o'r Senedd yng Ngwynedd Maldwyn, yn cynrychioli Plaid Cymru.
Dyma'r rhestr lawn o ymgeiswyr:
- Dewi Rhys Evans - Plaid Cymru
- Stacie Ingram - Ceidwadwyr Cymreig
- Sue Macfarlane - Plaid Werdd
- Linda Park - Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
- Rhys Parry - Annibynnol
- Terry Temple - Reform UK
Dyma'r isetholiad lleol cyntaf i'w gynnal ers etholiadau'r Senedd ym mis Mai. Bydd y pleidleisio'n digwydd rhwng 7am a 10pm ar y diwrnod.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr