Chwilio am fusnes newydd i redeg caffi Oriel Môn

Wednesday, 21 October 2026 at 18:25

By MônFM Newsroom

Cyngor Môn

Mae Oriel Môn yn chwilio am weithredwyr newydd i redeg ei gaffi yn Rhosmeirch, ger Llangefni.

Ers 2023, mae'r caffi wedi'i osod ar brydles i Caffi Bach y Bocs, ond mae'r cwmni wedi penderfynu peidio â gwneud cais i adnewyddu'r brydles.

Mae'r oriel gelf yn chwilio am gwmni neu unigolyn sydd â "phrofiad rhagorol ym maes arlwyo" i gymryd drosodd oddi wrth y deiliaid les presennol ar ôl mis Mawrth 2027.

Dywedodd perchnogion Caffi Bach y Bocs eu bod wedi penderfynu canolbwyntio ar brosiectau eraill ar ôl "bron i bedair blynedd hapus yn Oriel Môn".

Meddai Ian Williams a Caron Ynyr: "Rydym yn hynod falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni yng Nghaffi Bach y Bocs a hoffem ddiolch i Gyngor Sir Ynys Môn, ein tîm gwych ac, yn bwysicaf oll, ein cwsmeriaid bendigedig - mae llawer ohonynt wedi dod yn ffrindiau annwyl inni ar hyd y daith."

"Bydd popeth yn parhau fel arfer tan 31 Mawrth, ac edrychwn ymlaen at barhau i'ch croesawu drwy'n drysau."

"Diolch am eich cefnogaeth, eich caredigrwydd a'ch cyfeillgarwch dros y blynyddoedd. Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o Oriel Môn, a byddwn bob amser yn edrych yn ôl ar y cyfnod yma gydag atgofion melys."

Mae'r caffi yn Oriel Môn, sydd ar agor bob dydd Mawrth i ddydd Sul trwy gydol y flwyddyn, yn cynnig lle i fwy na 50 o bobl eistedd y tu mewn a 30 y tu arall, os yw'r tywydd yn caniatáu.

Yn ôl Cyngor Ynys Môn, sy'n rhedeg yr amgueddfa a'r oriel, mae'r brydles yn "cynnig cyfle busnes newydd a chyffrous".

Dwyeddod Kelly Parry, uwch reolwr Oriel Môn: "Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gydag Ian a Caron ers bron i bedair blynedd bellach."

"Mae eu brwdfrydedd dros ansawdd a gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid wedi llwyddo i wneud y caffi yn lle poblogaidd i ymweld ag o."

"Mae eu staff a'r ddarpariaeth arlwyo wedi bod yn arbennig, a bydd hi'n drist eu gweld nhw'n gadael ar ddiwedd cyfnod eu cytundeb. Hoffem ddymuno pob llwyddiant i Ian a Caron i'r dyfodol."

"Mae hwn yn gyfle gwych i redeg caffi mewn amgueddfa ac oriel gelf sy'n denu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn."

"Mae'r gofod arbennig sydd gennym ar gael, ynghyd â'r bwydydd o safon uchel a'r cynhyrchwyr lleol sydd ar yr Ynys, yn cynnig potensial gwych. Rwy'n edrych ymlaen at weld pwy fydd yn creu bwydlen newydd i'n hymwelwyr."

Os oes gennych ddiddordeb yn y brydles ar gyfer y caffi, cysylltwch â Kelly Parry am sgwrs anffurfiol ar 01248 752009 neu drwy e-bost: orielynysmon@ynysmon.gov.uk

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Late Night Music Club

    10:00pm - Midnight

    Chris Roberts keeping all you night owls company 'til midnight!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'