Mae dyn 36 oed wedi marw ar ôl disgyn o fynydd Grib Goch yn Eryri.
Galwyd y gwasanaethau brys, gan gynnwys tîm achub mynydd Llanberis, i'r grib tua 11.30am fore Sadwrn diwethaf.
Cafodd y dyn ei gludo o'r mynydd gan hofrennydd, ond cyhoeddwyd ei fod wedi marw yn y fan a'r lle.
Nid yw'r dyn wedi cael ei enwi yn ffurfiol eto ond mae ei berthnasau agosaf a'r crwner lleol wedi cael gwybod.
Dyweddod yr Arolygydd Jamie Owens o Heddlu'r Gogledd Cymru: "Mae fy nghydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theulu'r dyn yn yr amser anodd hwn."
"Mae ein hymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad trasig hwn yn parhau."
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a welodd y cwymp i ffonio 101 neu ddefnyddio'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000678802.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr