Mae bwrdd Betsi Cadwaladr yn wynebu ei gyfle olaf i wella, yn ôl y gweinidog iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi "ymyriad brys" i sefydlogi gwasanaethau, i gryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd, ac i ysgogi gwelliannau parhaol i bobl.
Mae'r bwrdd iechyd Gogledd Cymru wedi bod ar lefel uwchgyfeirio uchel ers 11 mlynedd, ac ar y lefel fwyaf difrifol - lefel 5 - ers mis Chwefror 2023.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, wedi dweud bod Betsi Cadwaladar "yn dal i fethu â chyrraedd y safonau y mae pobl y Gogledd yn eu haeddu, gan bwysleisio'n glir na all y sefyllfa hon barhau mwyach".
Fel rhan o'r ymyriad, bydd adolygiad llawn o sefyllfa bresennol y bwrdd iechyd yn cael ei gynnal, gan gwmpasu heriau gweithredol, ansawdd y gofal a chyfeiriad strategol.
Bydd yr adolygiad yn ystyried diogelwch cleifion yn ogystal ag arweinyddiaeth, llywodraethiant, diwylliant sefydliadol a gallu'r bwrdd ar draws y bwrdd iechyd.
Bydd panel arbenigol annibynnol yn cynnal yr asesiad ac yn darparu argymhellion clir, a fydd yn seiliedig ar dystiolaeth i'r Gweinidog Cabinet.
Roedd dulliau blaenorol yn dibynnu ar y bwrdd iechyd yn arwain ei welliannau ei hun, gyda chymorth allanol, ond yn ôl y Llywodraeth, nid yw hyn wedi sichrau'r newid angenrheidiol ar y cyflymder sy'n ofynnol.
Mae'r ymyriad newydd yn roi rôl fwy uniongyrchol i Lywodraeth Cymru yn y gwaith o sicrhau bod gwelliannau yn cael eu cyflawni.
Disgwylir adroddiad terfynol erbyn diwedd mis Hydref.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor: "Mae pobl y Gogledd yn aros yn rhy hir i gael mynediad at y gofal a'r driniaeth y maen nhw eu hangen. Dydy hyn ddim yn realiti y dylid gofyn i'r cyhoedd ei dderbyn, a dydy o ddim chwaith yn realiti y bydd y Llywodraeth hon yn ei dderbyn."
"Dyma gyfle olaf y Bwrdd i ddangos eu bod nhw'n gallu cyflawni'r safonau gofal uchel a chyson y mae pobl y Gogledd yn eu haeddu."
Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru wedi cael y dasg o gefnogi'r bwrdd iechyd mewn meysydd fel gofal a gynlluniwyd, diagnosteg a chanser, er mwyn gwella cynllunio gweithredol a chryfhau'r ddarpariaeth.
Bydd adnoddau pellach nawr yn cael eu defnyddio i sicrhau gwelliannau dros y misoedd nesaf.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddynodi adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn 'wasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol' – ei lefel fwyaf o bryder – lai na dwy flynedd ers i'r adran gael ei thynnu o'r statws hwn.
Bydd Perfformiad a Gwella'r GIG yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu Tîm Gwella Gofal Brys ac Argyfwng dan arweiniad uwch-arbenigwr, a fydd yn bwrw ymlaen â chynllun gwella.
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor: "Mae'r cyhoeddiad heddiw yn ymyriad difrifol, sy'n adlewyrchu'r pryderon parhaus sydd heb eu datrys o hyd."
"Mae trefniadau blaenorol wedi dibynnu ar y bwrdd iechyd yn nodi ac yn cyflawni ei welliannau ei hun, gyda chymorth yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â hynny. Ond dydy'r dull hwnnw ddim wedi gweithio."
"Mae'r cynllun newydd hwn yn gwyro'n glir oddi wrth ddulliau aflwyddiannus y gorffennol. Rydyn ni'n gwneud mwy na gofyn i'r sefydliad wella; rydyn ni'n nodi'n glir sut i gyflawni'r gwelliannau hyn."
"Mae hynny'n golygu gosod disgwyliadau clir, cynnig arbenigedd wedi'i dargedu, a goruchwylio'r gwaith cyflawni yn agos ac yn barhaus."
"Mae o'n ddatganiad clir o fy ymrwymiad i gefnogi gwelliannau ac i sicrhau bod pobl y Gogledd yn cael y gofal diogel ac amserol o ansawdd uchel y maen nhw'n ei haeddu."
Mewn ymateb, dyweddod Dyfed Edwards, cadeirydd y bwrdd Betsi Cadwaladr: "Rydym yn croesawu'r cyfle i gydweithio â Llywodraeth Cymru a Pherfformiad a Gwella'r GIG er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wneud gwelliannau ar gyfer pobl Gogledd Cymru."
"Fel bwrdd, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnig gofal diogel ac o ansawdd uchel ac i ddysgu o'r arbenigedd annibynnol a fydd yn helpu i atgyfnerthu ein sefydliad."


Strategaeth ailgylchu newydd i Wynedd
Pwllheli: arestio dau mewn cyrch cyffuriau
Arestio dyn ar ôl dod o hyd i gyffuriau mewn fan
Cynllun pum mlynedd i wella cyfleusterau pêl-droed
Corff dyn wedi'i ganfod yn Eryri