Mae ditectifs yn rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus yn dilyn cyfres o fyrgleriaethau ar draws Ynys Môn mewn un diwrnod.
Maen nhw'n ymchwilio i bedwar lladrad yn ardaloedd Amlwch, Benllech a Phentraeth ddydd Sul diwethaf.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio ar drigolion a welodd unrhyw beth amheus dros y penwythnos i gysylltu â nhw.
Dyweddod Matt Bentley, Rhingyll Cynorthwyol Ynys Môn: "Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn siarad ag unrhyw un sydd wedi gweld neu sydd â lluniau o weithgaredd amheus yn yr ardaloedd uchod brynhawn Sul."
"Rydym yn annog trigolion i wella diogelwch eu cartrefi trwy gadw ffenestri a drysau dan glo, gadael golau ymlaen gyda'r nos, a chadw eitemau gwerthfawr allan o'r golwg."
"Rhannwch y cyngor hwn gyda thrigolion oedrannus neu gymdogion nad ydynt ar y cyfryngau cymdeithasol."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y lladradau, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000288556.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr