Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o ladrad a herwgipio ym Mangor.
Mae Daniel Williams-Ellis wedi'i gyhuddo hefyd o feddu teclyn miniog mewn man cyhoeddus yn dilyn digwyddiad yn y ddinas ddydd Mawrth 19 Mai.
Mae'r dyn 24 oed, heb gartref sefydlog, hefyd wedi'i gyhuddo o gyflenwi cyffur Dosbarth A.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa am fis, pan ymddangosodd gerbron ynadon Caernarfon ddydd Iau.
Bydd Williams-Ellis yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth 1 Medi.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr