Mae dyn 33 oed wedi ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth mewn fflat yng Nghaergybi.
Cafodd corff dyn 53 oed ei ddarganfod gan barameddygon yn Llys Watling ar Ffordd Llundain yn oriau mân bore Sadwrn.
Datganwyd ei fod yn farw yn y fan a'r lle ond nid yw'r dyn wedi'i enwi'n ffurfiol.
Yn Llys Ynadon Llandudno, cafodd Martin Ward o Ffordd Kingsland, Caergybi, ei gadw yn y ddalfa yn dilyn gwrandawiad byr fore Llun.
Bydd yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal presenoldeb yn yr ardal i roi sicrwydd i drigolion lleol ac mae ditectifs hefyd yn atgoffa'r cyhoedd i osgoi dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd y Prif Ditectif Arolygydd Richard Sidney o Heddlu Gogledd Cymru: "Hoffwn i ddiolch i'r gymuned leol am eu help tra bod ein hymholiadau ni’n parhau."
"Mae’r heddlu’n parhau i fod yn bresennol yn yr ardal at er mwyn tawelu meddwl y gymuned."
"Gan fod cyhuddiadau bellach wedi cael eu hawdurdodi yn yr ymchwiliad hwn, byddwn ni’n annog aelodau o'r cyhoedd i beidio â chyhoeddi unrhyw beth ar-lein a allai fod yn niweidiol i achos llys yn y dyfodol neu danseilio'r broses cyfiawnder troseddol."
Mae'r heddlu'n parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth mewn cysylltiad â'r farwolaeth i ffonio 101 neu ddefnyddio'r sgwrs we fyw, gan dyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000852942.


Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr