Mae dyn 44 oed wedi ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o ymosod yn dilyn aflonyddwch yng Nghaergybi.
Cyhuddwyd Gary Williams o Walchmai o achosi niwed corfforol difrifol i ddyn yn fwriadol mewn cyferiad yn Clos Holborn ddydd Mawrth.
Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar ddynes a dau gyhuddiad o ymosod ar weithiwr yn y gwasanaethau brys.
Yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth, cafodd Williams ei gadw yn y ddalfa am fis
Bydd yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun 16 Tachwedd.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr