Mae dynes o Rwmania wedi cael ei chyhuddo yn dilyn lladrad ym Miwmares yn ystod gwyliau'r Pasg.
Cafodd dau berson, yn wreiddiol o Rwmania, eu harestio yn dilyn lladrad mewn busnes ar y Stryd Fawr ddydd Gwener y Groglith (3 Ebrill).
Mi gafodd Daniela Tanase, 40 oed, o Tipton, ei gyhuddo o gyflwani byrgleriaeth a lladrad, a chafodd ei remandio i’r ddalfa er mwyn ymddangos ger bron y llys ynadon Nghaernarfon ddydd Llun.
Mae unigolyn 17 oed, hefyd o Tipton, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau pellach barhau.
Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein hymchwiliad ni’n parhau ar hyn o bryd, a ‘da ni’n ddiolchgar i gymuned Biwmares am eu help nhw."


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi