Mae tri phrosiect arfordirol ar draws Ynys Môn a Gwynedd wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd gwelliannau diogelwch yn cael eu gwneud yn harbwr Amlwch trwy grant o Gronfa Adeiladu Capasiti Arfordirol, sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys pedestalau trydanol newydd, system ddosbarthu marina, gorchuddion gratiau dur a chraen doc plygadwy telesgopig ym Mhorthladd Amlwch.
Mae cyllid hefyd wedi'i sicrhau gan Coastal Futures, rhaglen arsyllfa forol dan arweiniad y gymuned ar draws y Fenai, sy'n defnyddio gwyddoniaeth carbon glas a seilwaith economi gylchol.
A bydd proseict Clust i'r Môr yn darparu monitro gwell o famaliaid morol oddi ar arfordir Gwynedd, ynghyd â monitro acwstig ar gyfer amgylcheddau arfordirol ynni uchel.
Bydd saith prosiect arfordirol ar draws Cymru yn derbyn cyfran o £540,761 o'r gronfa, a lansiwyd yn 2023.
Dyweddod Llyr Gruffydd, gweinidog cynaliadwyedd: "Cymunedau arfordirol Cymru yw ceidwaid ein hamgylcheddau morol cyfoethocaf, ac mae'r cyllid hwn yn cefnogi eu gwaith i'w diogelu a'u cynnal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
"O adfer wystrys brodorol yn Nhalacharn i fonitro mamaliaid morol oddi ar arfordir Gwynedd, mae'r prosiectau hyn yn dangos beth all gwybodaeth leol a gweithredu cymunedol ei gyflawni."
"Rydyn ni'n buddsoddi mewn moroedd glân, cadwyni cyflenwi dyframaethu a physgodfeydd cryf ac economïau arfordirol gwydn – oherwydd mai arfordir Cymru yw un o'n hasedau mwyaf."


Interniaid newydd yn ymuno â phrosiect Morlais
Gŵyl Arall 2026 yn fwy 'uchelgeisiol'
A5: beiciwr wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
Plant Môn yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr
Treth twristiaeth: ymgynghoriad yn parhau