Cymeradwyo Ysgol Uwchradd Caergybi newydd

Monday, 13 April 2026 17:06

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer cartref newydd gwerth £66 miliwn i Ysgol Uwchradd Caergybi.

Bydd dros 900 o ddisgyblion yn symud i ysgol bwrpasol newydd ger Canolfan Hamdden Caergybi erbyn mis Medi 2030.

Mae gweinidogion wedi cymeradwyo'r cynlluniau heb unrhyw addasiadau, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yr haf diwethaf.

Ond yn ôl Cyngor Môn, mae'r ysgol newydd yn ddibynnol ar gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o ariannu ar y cyd trwy fuddsoddiad cydfuddiannol.

Dyweddod prif weithredwr y cyngor, Dylan J. Williams: "Mae derbyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru heb unrhyw addasiadau yn garreg filltir bwysig yn ein cynlluniau i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel i bobl ifanc yng Nghaergybi."

"Byddai amgylchedd dysgu modern newydd yn Ysgol Uwchradd Caergybi yn sicrhau fod y cyfleusterau a'r cyfleoedd gorau ar gael i ddisgyblion."

"Mae'r cynigion hyn hefyd yn cefnogi un o amcanion strategol allweddol y cyngor – addysg – trwy gynorthwyo i sicrhau darpariaeth effeithiol ar gyfer heddiw ac ymhell i'r dyfodol."

Mae adeilad presennol yn Nheras Alderley yn wynebu costau cynnal a chadw sylweddol, tra bod darganfod concrit RAAC ym mis Medi 2023 wedi effeithio ar ddosbarthiadau am sawl mis.

Cymerodd dros fil o bobl ran yn ymgynghoriad yr haf diwethaf - gyda'r mwyafrif helaeth (78%) o blaid adeiladu ysgol newydd.

O'r nifer oedd yn anghytuno â'r cynigion, dywedodd rhai bod y safle newydd yn rhy bell o ganol y dref ac roedd eraill eisiau gweld yr ysgol bresennol yn cael ei hailddatblygu.

Bydd y cyngor nawr angen dilyn y broses gynllunio statudol cyn dechrau gwaith adeiladu ar yr ysgol newydd.

Ychwanegodd Aaron C Evans, cyfarwyddwr addysg Cyngor Môn: "Rydym yn hynod o falch fod adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi wedi derbyn sêl bendith Llywodraeth Cymru."

"Mae creu adeilad ysgol modern a phwrpasol yn fuddsoddiad sylweddol mewn addysg yng Nghaergybi a'r dalgylch. Rydym yn grediniol y bydd y prosiect hwn yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor addysg uwchradd yn lleol ac yn darparu mannau dysgu arbenigol o'r safon uchaf."

"Bydd adeilad a chyfleusterau newydd yn cyfrannu at sicrhau'r profiadau a'r canlyniadau gorau posib ar gyfer ein pobl ifanc, yn ogystal â chefnogi amcanion strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg' y cyngor."

Mae'r ysgol bresennol i fod i gau ar ddiwedd tymor yr haf yn 2030.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'