Elin Walker Jones yw cadeirydd newydd Cyngor Gwynedd am y 12 mis nesaf.
Etholwyd y cynghorydd Plaid Cymru, sy'n cynrychioli ward Glydir Bangor, yn ystod cyfarfod blynyddol y cyngor sir ddydd Iau.
Mae hi'n olynu'r Cynghorydd Ioan Walker Jones yn y rôl, ar ôl gwasanaethu fel ei ddirprwy.
Y dirprwy gadeirydd yw’r Cyng Delyth Lloyd Griffiths, sy’n cynrychioli Plaid Cymru yn ward Brithdir a Llanfachreth / Y Ganllwyd / Llanelltyd.
Dwyeddod y Cynghorydd Jones: "Mae hi’n fraint ac anrhydedd cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd."
"Rwy’n edrych ymlaen at wneud fy ngorau i wasanaethu a hybu gwaith y cyngor a holl drigolion Gwynedd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod."
Ers 2011, mae’r Cynghorydd Jones wedi gwasanaethu ar sawl gwahanol bwyllgor, gan gynnwys cabinet y cyngor.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr