Mae cynghorydd annibynnol wedi cael ei ddewis yn gadeirydd newydd Cyngor Ynys Môn am y 12 mis nesaf.
Cafodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas ei ethol ym Mai 2013 fel un o'r tri cynghorydd sydd yn cynrychioli ward Ynys Gybi.
Mae Mr Thomas yn byw yn Nhreaddur ac wedi ymddeol ar ôl blynyddoedd lawer yn gweithio yn yr hen orsaf bŵer niwclear yn Wylfa.
Cafodd ei ethol i olynu'r Cynghorydd Non Dafydd fel cadeirydd yng nghyfarfod blynyddol y cyngor sir ddydd Mawrth.
Dwyeddod y Cynghorydd Thomas: "Mae cael fy ethol fel Cadeirydd y Cyngor Sir yn anrhydedd mawr a hoffwn ddiolch i fy nghyd gynghorwyr am roi eu ffydd ynof fi."
"Byddaf yn gweithio hyd eithaf fy ngallu i fod yn llysgennad da ar ran y cyngor sir, ein hynys a'i thrigolion. Dwi’n wir edrych ymlaen at fy mlwyddyn yn y swydd a byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau dinesig gyda balchder mawr."
Etholwyd y Cynghorydd Jackie Lewis, sy'n cynrychioli ward Talybolion fel aelod Plaid Cymru, yn is-gadeirydd ar gyfer 2026/27.
Mae'r Cynghorydd Thomas yn briod gyda dau o blant ac yn ei amser hamdden, mae'n hoffi cadw'n heini drwy gerdded, beicio a mynd i ddosbarthiadau nyddu yn y gampfa.
Mae hefyd yn hoffi teithio a gwirfoddoli gyda nifer o sefydliadau.


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi