Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi ymgyrch ryngwladol i annog goroeswyr cam-drin rhywiol plant.
Nod y mudiad 'Nid y Nghywilydd' (Not My Shame) yw annog unigolion, cymunedau a sefydliadau i sefyll mewn undod â'r rheini sydd wedi profi trawma cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod.
Sefydlwyd y mudiad a'r elusen yn 2021 gan yr ymgyrchydd a'r goroeswr Emma Jane Taylor.
Meddai: "Bydd pobl ledled Cymru, y DU a'r byd yn dangos eu cefnogaeth mewn sawl ffordd – gan gynnwys gwisgo crysau-t #NotMyShame neu rubanau gwyn, goleuo adeiladau cyhoeddus a chynnal munud o dawelwch."
I nodi diwrnod yr ymgyrch ar ddydd Gwener 1 Mai, mae baner Nid Fy Nghywilydd wedi'i chwifio y tu allan i bencadlys y cyngor yng Nghaernarfon.
Ychwanegodd Dylan Owen, cyfarwyddwr gwasanethau cymdeithasol y cyngor: "Rydym yn falch o nodi'r diwrnod pwysig hwn drwy godi baner Nid Fy Nghywilydd."
"Mae cam-drin rhywiol plant yn dwyn plentyndod oddi wrth lawer o bobl ac yn gallu effeithio ar oroeswyr, yn ogystal â'u teuluoedd, am weddill eu hoes."
"Fel cyngor, rydym yn gweithio'n gyson i wella i weld sut rydym yn cynnig cefnogaeth i unigolion, teuluoedd a chymunedau wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau ac ymdopi â trawma."
"Rydym yn ddiolchgar i'r mudiad Not My Shame am godi ymwybyddiaeth ac annog trafodaethau agored a thosturiol ynghylch y mater anodd ond hollbwysig hwn."


'Newidiadau sylweddol' yn Ysgol Friars - arolygwyr
Carcharu dyn am cyfres o droseddau ym Mangor
Streicwyr Friction yn serennu mewn drama newydd
Atafaelu tybaco anghyfreithlon o siopau Môn
Teyrnged i feiciwr modur fu farw ym Mynytho