Cynllun newydd i ddiogelu Coedwig Niwbwrch

Tuesday, 9 June 2026 13:10

By Ystafell Newyddion MônFM

CNC

Bydd gwaith i wella a diogelu Coedwig Niwbwrch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn dechrau ym mis Hydref.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), bydd mwy o goetir naturiol yn cael ei adfer ar hyd y twyni, gan ganiatáu i gynefinoedd pwysig ehangu a helpu i gryfhau'r goedwig gonwydd ymhellach i mewn i'r tir.

Mae'n rhan o gynllun adnoddau coedwig, a gymeradwywyd ym mis Ionawr 2025, gyda'r nod o ddiogelu dros 950 hectar o dir am y 30 mlynedd nesaf.

Yn ystod y gwaith, bydd ffyrdd ar gau dros dro, bydd traffig yn cael ei reoli a bydd newidiadau i drefniannau parcio er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Bydd ymwelwyr yn cael gwybod ymlaen llaw, er mwyn gallu cynllunio eu taith.

Dywedodd Dylan Williams, rheolwr gweithrediadau tir ac asedau CNC yn y Gogledd Orllewin: "Mae tirwedd Niwbwrch yn un sy’n newid, ac mae gwaith i deneuo’r goedwig, a hynny’n waith sydd wedi’i gynllunio’n ofalus, yn ganolog er mwyn helpu’r safle i addasu ar gyfer y dyfodol."

"Bydd y gwaith hwn hefyd yn helpu i greu cyfleoedd i bwyso a mesur opsiynau mwy cynaliadwy, gan gynnwys llwybr mynediad newydd posibl."

"Mae pwysau fel erydu arfordirol, twyni sy’n symud a newid hinsawdd yn golygu bod y dirwedd a’r trefniadau mynediad presennol yn prysur fynd yn llai cynaliadwy. Gyda chostau’n codi a phryderon cynyddol am ddiogelwch, mae'n bwysig ein bod ni’n gweithredu nawr."

"Rydyn ni’n mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i reoli'r goedwig a'r amgylchedd cyfagos, gan gefnogi prosesau naturiol wrth gadw ymwelwyr yn ddiogel a gwarchod y dirwedd unigryw hon."

Fel rhan o'r prosiect, bydd rhai coed yn cael eu teneuo a'u torri i lawr er mwyn cadw'r goedwig yn iach a chynyddu'r amrywiaeth o rywogaethau.

Mae rhai coed wedi’u heintio, wedi’u difrodi neu’n agosáu at ddiwedd eu hoes a bydd eu tynnu’n helpu i greu tirweddau twyni mwy naturiol a choetir llydanddail brodorol.

Mae'r corff amgylcheddol hefyd yn gweithio gydag isgontractwyr ar sut i wella mynediad a chyfleusterau, gan gynnwys opsiynau posibl ar gyfer llwybr mynediad newydd ym mhen gogleddol y maes parcio.

Ond dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Mae'r syniadau hyn yn dal i fod yn y camau dylunio cynnar, a bydd angen arolygon amgylcheddol llawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau."

Bydd aelodau o’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i sesiynau galw heibio, am gyfle i gael rhagor o wybodaeth, gofyn cwestiynau a chlywed am y cynlluniau hirdymor ar gyfer y goedwig.

Cynhelir y sesiwn galw heibio nesaf ar ddydd Iau 11 Mehefin, 1pm–7pm yn Sefydliad Prichard Jones, Niwbwrch.

Ym mis Mawrth, cyflwynwyd system barcio newydd yn y goedwig, gan defnyddio system adnabod platiau rhif awtomatig (APNR) heb rwystrau.

Mae'n dilyn ymdrechion i fynd i'r afael â phroblemau parcio yn y pentref a achosir gan lif o ymwelwyr ar adegau brysur.

Mae CNC yn cynghori unrhyw un sy'n credu eu bod wedi cael wedi cael cosb parcio yn anghywir i gysylltu â'r cwmni parcio yn y lle cyntaf.

Ar gyfer pob ymholiad sy’n ymwneud â pharcio preswylwyr lleol, cysylltwch â CNC ar niwbwrch@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 0300 065 3000.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'