Cynllun rhannu peiriannau i gefnogi ffermwyr

Wednesday, 12 August 2026 10:53

By Ystafell Newyddion MônFM

Menter Môn

Mae ffermwyr a thyfwyr yn cael eu gwahodd i ddysgu mwy am gynllun rhannu peiriannu newydd yn Sioe Môn.

Bydd y Cylch Peiriannau Gogledd Cymru yn rhoi mynediad i ffermwyr a thyfwyr at beiriannau garddwriaethol arbenigol drwy system archebu ar-lein, gan wneud yr offer ar gael ar draws y rhanbarth.

Mae Menter Môn, sy'n rheoli'r cynllun, yn dweud y bydd yn mynd i'r afael â chost uchel buddsoddi mewn peiriannau arbenigol, un o'r prif rwystrau sy'n wynebu cynhyrchwyr garddwriaethol.

Bydd yr offer ar gael drwy blatfform archebu ar-lein, gan lansio yn yr Hydref.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr Menter Môn: "Mae Cylch Peiriannau Gogledd Cymru wedi'i ddatblygu mewn ymateb i'r heriau y mae tyfwyr wedi dweud wrthym eu bod yn eu hwynebu."

"Mae Sioe Môn yn gyfle pwysig i ni siarad yn uniongyrchol â ffermwyr ac undebau amaethyddol am sut y gall y fenter weithio iddyn nhw."

"Rydym yn gwybod y gall mynediad at offer arbenigol fod yn rhwystr gwirioneddol i fusnesau sy'n awyddus i arallgyfeirio neu ehangu cynhyrchiant garddwriaethol, felly mae cael y cyfle i drafod efo nhw â'r gymuned amaethyddol wyneb yn wyneb yn werthfawr iawn."

"Drwy rannu peiriannau, gallwn helpu tyfwyr i leihau costau a rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio gyda mwy o hyder. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â chefnogi mwy o gynhyrchu bwyd yn lleol a chryfhau’r sector yng ngogledd Cymru."

Mae'r fenter yn gydweithrediad rhwng partneriaethau bwyd lleol yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych.

Y gobaith yw y bydd yn rhoi cyfle i ffermwyr a thyfwyr roi cynnig ar ddulliau cynhyrchu newydd, gwella effeithlonrwydd ac ehangu eu gweithgarwch, gan leihau'r risg ariannol ar yr un pryd.

Mae'r cylch peiriannau hefyd yn cael ei ystyried yn ffordd o annog arallgyfeirio ar ffermydd, gwella gwydnwch busnesau bwyd-amaeth a chryfhau cadwyni cyflenwi lleol.

Ychwanegodd David Wylie, rheolwr y prosiect: "Mae Sioe Môn yn gyfle gwych i ni gyflwyno'r cylch peiriannau i'r gymuned amaethyddol a chlywed gan dyfwyr am yr hyn sydd ei angen arnynt o'r cynllun."

"Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â ffermwyr, tyfwyr ac undebau amaethyddol yn y sioe, ateb cwestiynau a datblygu cysylltiadau fydd yn helpu ni i lywio sut bydd y cylch peiriannau yn gweithio'n ymarferol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Nia Davies

    6:00pm - 8:00pm

    Sgwrs a cherddoriaeth hamddenol yng nghwmni Nia ar nos Sul.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'