Mae Cyngor Môn wedi galw is-etholiad ar gyfer sedd wag yn ward Talybolion.
Mae’n dilyn ymddiswyddiad Llinos Medi, a gafodd ei hethol yn AS newydd Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.
Roedd Ms Medi yn gynghorydd am 11 mlynedd o 2013, gan gynnwys saith mlynedd fel arweinydd y cyngor o 2017.
Mae ward Talybolion, yng ngogledd orllewin yr ynys, yn cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd sir.
Mae dwy o’r tair sedd yn cael eu dal gan Blaid Cymru, gyda’r drydedd sedd bellach yn wag.
Rhaid danfon papurau enwebu i’r swyddog canlyniadau, Dylan J Williams, cyn 4yp ar ddydd Gwener 27 Medi.
Os bydd yr etholiad yn cael ei hymladd, cynhelir y bleidlais ar ddydd Iau 24 Hydref.


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir