Mae corff wedi’i ddarganfod wrth chwilio am ddyn oedd ar goll o’r Amwythig.
Cafodd Andrew ei weld diwethaf ar ddydd Sadwrn (21 Medi).
Daethpwyd o hyd i Audi gwyn Andrew yn agos i draeth y Bermo ar yr un noson.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r traeth yn Nhywyn yn dilyn galwad gan aelod o'r cyhoedd ar ddydd Mercher.
Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol ond mae'r crwner lleol wedi'i hysbysu.
Mae swyddogion cyswllt arbenigol o Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn cefnogi teulu Andrew.


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir