Dathlu treftadaeth cymunedau llechi drwy gelf

Sunday, 6 October 2024 21:45

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae pedair ysgol wedi bod yn helpu i greu celf gyhoeddus newydd i ddathlu tirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Mae disgyblion o ardaloedd Penygroes, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog wedi bod yn gweithio gydag artistiaid a chrefftwyr fel rhan o brosiectau Llewyrch o’r Llechi a Chronfa Ffyniant Gyffredin sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Gwynedd.

Ym Mhenygroes, bydd yr artist Angharad Pearce Jones yn creu gwaith cerfluniol fydd yn cael ei osod ger safle Byw’n Iach Plas Silyn. Mae hi wedi bod yn gweithio gyda phlant Ysgol Bro Lleu, Penygroes i gychwyn ar y prosiect, ac fe fydd ei chelf yn cael ei osod cyn diwedd y flwyddyn.

Meddai’r artist: "Mae'n fraint o ennill un o'r comisiynau celf cyhoeddus yn y tirwedd lechi."

"Rydw i wedi bod yn gweithio gyda pobl ifanc Penygroes i ddatblygu darn o gelf sy'n adlewyrchu tirwedd ôl-ddiwydiannol Dyffryn Nantlle a diwylliant llenyddol cryf yr ardal arbennig hon. Mae eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd wedi creu argraff fawr arna i!"

Ychwanegodd Sharon Roberts, athrawes dosbarth Ysgol Bro Lleu: "Mae wedi bod yn gyffrous iawn cael artist enwog yn ymweld â'r ysgol."

“Mae’r disgyblion wedi mwynhau dysgu am eu hanes lleol yn fawr, a chyfrannu at y prosiect creadigol hwn."

“Rydym yn falch iawn o’n diwylliant, ein hanes, a’n treftadaeth ac mae’r prosiect hwn wedi bod yn ffordd wych o gysylltu â’r themâu hynny.”

 

Ym Mlaenau Ffestiniog, mae'r cwmni Original Roofing (ORC) wedi cael eu comisiynu i greu murlun llechi yn y dref, ac wedi derbyn mewnbwn gan ddisgyblion Ysgol Y Moelwyn o ran y dyluniad.

Cafodd y disgyblion gyfle hefyd i roi cynnig ar dechnegau crefft llechi traddodiadol.

Mae ORC yn adnabyddus am eu dyluniadau artistig a dychmygus, sy'n mynd law yn llaw â'u hatgyweiriadau a'u gosodiadau o doeau a waliau thalcen tai o lechi.

Dywedodd cydberchennog ORC, Kaz Bentham: "Roeddem eisiau dweud pa mor hapus ydym ni i gael y cyfle i gyflwyno'r prosiect celf cyffrous yma ym Mlaenau Ffestiniog."

“Mae gallu gwneud hyn yn ein tref enedigol yn anrhydedd, a gyda chymorth a mewnbwn y gymuned leol rydym yn hyderus y gallwn adael rhywbeth i bawb ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod."

Ers sicrhau statws treftadaeth y byd gan Unesco yn 2021, mae llawer o waith wedi'i wneud i fanteisio ar y dynodiad er budd ein cymunedau a'n busnesau. 

Mae’r prosiect celf hwn yn un o nifer o brosiectau buddsoddi sydd ar y gweill sydd yn cyfrannu at weledigaeth, sef diogelu, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau'r Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig adfywio economaidd a chynhwysiant cymdeithasol.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae’n braf gweld pobl ifanc yn ymddiddori ac yn cael y cyfle i gyfrannu at brosiectau celf gyhoeddus fel rhan o safle treftadaeth y bydd tirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru."

“Mae mynegi eu hunain trwy gelf yn ffordd wahanol i ennyn parch ein pobl ifanc at eu treftadaeth."

"Bydd lleoliad y gwaith yng nghanol cymunedau Dyffryn Nantlle, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog yn destun balchder ac yn adlewyrchu bod treftadaeth chwarelyddol yr ardal yn perthyn nid yn unig yn y gorffennol ond i’r genhedlaeth heddiw ac i’r dyfodol, ac yn hwb i’n hymdrechion parhaus i adfywio cymunedau llechi Gwynedd."

Mae'r prosiect wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Cyffredin a'r rhaglen Llewyrch o'r Llechi, sy’n cael eu gweinyddu gan y cyngor.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Weekend Anthems

    11:00pm - Midnight

    Two hours of non-stop floorfillers and dance anthems!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'