Mae Ynys Môn yn arwain dathliadau i nodi Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang yng Nghymru.
Mae'r wythnos, sy'n rhedeg tan ddydd Iau 30 Ebrill, yn anelu at hyrwyddo cysylltiadau ystyrlon rhwng cenedlaethau ac yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae’r perthnasoedd hyn yn ei chael ar lesiant, cymunedau a chymdeithas.
Eleni, mae Menter Môn yn weithredu fel Arweinydd Gwlad i Gymru, gan gydlynu gweithgareddau a rhannu arfer da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel rhan o’r mudiad byd-eang.
Drwy gydol yr wythnos, bydd plant, pobl hŷn, ysgolion, cartrefi gofal a sefydliadau cymunedol, yn ogystal ag awdurdodau lleol, yn dod ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a gynlluniwyd i gryfhau perthnasoedd rhyng-genhedlaeth.
Ar Ynys Môn, mae sawl ysgol leol yn ymweld â lleoliadau preswyl i rannu cerddoriaeth, sgwrs a chwmni.
Bydd disgyblion o Ysgol y Graig yn ymweld â phreswylwyr yn Hafan Cefni, lle byddant yn perfformio caneuon ac yn treulio amser gyda’i gilydd, gan ddefnyddio cerddoriaeth i gysylltu ar draws cenedlaethau.
Bydd plant o Ysgol Bryngwran yn ymweld â Phlas Crigyll, tra bod disgyblion o Ysgol Henblas yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda thrigolion Cartref Preswyl Rhos.

Dywedodd Aaron Morris, swyddog prosiect Menter Môn: "Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang yn ymwneud â chreu mannau ystyrlon lle gall pobl o bob oed ddod at ei gilydd, dysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu cysylltiadau."
"Mae gweithgareddau Pontio’r Cenedlaethau yn gallu lleihau unigrwydd, gwella lles a meithrin gwell dealltwriaeth a pharch rhwng cenedlaethau, ac rydym yn hynod falch o weld cymaint o gymunedau lleol yn cymryd rhan yma yng Nghymru."
Mae partneriaid eraill, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau drwy gydol yr wythnos, ochr yn ochr ag ysgolion, cartrefi gofal, sefydliadau cymunedol, a chyrff cenedlaethol.
Yn ogystal â gweithgareddau lleol, bydd Cymru yn cynnal gweminar cenedlaethol ar arfer da yn cysylltu’r cenedlaethau, gan arddangos gwaith da o bob cwr o’r wlad.
Bydd y weminar yn cynnwys cyfraniadau gan Rhian Bowen-Davies, Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ynghyd â Karen o gwmni Kariad, ac ymarferwyr a sefydliadau eraill sy’n gweithio i ddatblygu cysylltiadau cryfach rhwng cenedlaethau.
Bydd y sesiwn yn darparu llwyfan ar gyfer rhannu, dathlu llwyddiant, ac archwilio sut y gall dulliau pontio’r cenedlaethau gefnogi cymunedau iachach gan greu cysylltiad.


Criccieth: corff dynes o Iwerddon wedi'i ddarganfod
Carcharu dyn am fyrgleriaethau yn Amlwch
Carcharu dyn 'cenfigennus' am ddegawd o gam-drin
Enw Maldwyn Meirionnydd ar gyfer Eisteddfod 2027
Ceisiadau ar agor ar gyfer gwobr Syr Kyffin