Mae'r heddlu yn bryderus am ddiogelwch dau ddyn sydd ar goll o Bwllheli.
Gwelwyd Simon a Connor ddiwethaf yn mynd i'r traeth yn Hafan y Môr tua 6.30yh nos Fawrth. Credwyd eu bod yn mynd am y traeth hefo caiacau wedi chwythu fyny.
Bu ymgyrch chwilio deg awr gan y gwasnaethau brys ddydd Iau.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am eu lleoliad i ddod ymlaen.
Dywedodd Prif Arolygydd Ian Roberts: “Mae swyddogion yn cynnal ymholiadau ac yn chwilio yn yr ardal, hefo help gan gydweithwyr o Wylwyr y Glannau."
"Os oeddech chi ar y traeth nos Fawrth, neu hefo unrhyw wybodaeth a allai ein helpu ni ddod o hyd i Simon a Connor, cysylltwch hefo ni drwy ein sgwrs we fyw neu ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod O118860."


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr