Dau wedi marw mewn damwain awyren ger Trawsfynydd

Friday, 14 August 2026 19:37

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Bill Harrison)

Mae dau o bobl wedi marw yn dilyn damwain awyren ysgafn ger Trawsfynydd.

Daethpwyd o hyd i'r awyren mewn lleoliad aghysbell ger y pentref, yn dilyn chwiliadau awyr ac ar y ddaear prynhawn Gwener.

Cyhoeddwyd bod y ddau oedd yn yr awyren wedi marw yn y fan a'r lle.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, lansiwyd chwiliadau toc ar ôl hanner dydd yn dilyn adroddiadau na wnaeth awyren a oedd yn teithio o faes awyr yn Lloegr gyrraedd maes awyr Caernarfon fel y disgwylid.

Mae'r Gangen Ymchwiliadau Digwyddiadau Awyr (AAIB) wedi cael gwybod am y digwyddiad ac wedi anfon tîm o ymchwilwyr.

Dywedodd Prif Uwcharolygydd Owain Llewellyn o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau ni hefo teuluoedd a ffrindiau'r rhai yr effeithiwyd arnyn hwn gan y digwyddiad trasig hwn."

"Byddwn yn helpu'r AAIB hefo'u hymchwiliad nhw er mwyn gwneud yn siŵr bod y amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad hwn yn cael eu deall yn llawn."

"Mae hon wedi bod yn ymgyrch chwilio heriol, a dwi'n ddiolchgar i'r holl asiantaethau o dan sylw am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad nhw."

Nid oes unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Nia Davies

    6:00pm - 8:00pm

    Sgwrs a cherddoriaeth hamddenol yng nghwmni Nia ar nos Sul.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'