Dechrau prysur i'r haf MônActif

Wednesday, 17 June 2026 08:29

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae dros 4,000 o bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden ar Ynys Môn yn ystod gwyliau hanner tymor ym mis Mai.

Gwelwyd lefelau cyfranogi da iawn ym mhob rhan o'r ynys yn ystod yr wythnos brysur o weithgareddau a digwyddiadau, yn ôl MônActif, y ganolfan chwaraeon a hamdden a redir gan y cyngor sir.

Roedd y rhaglen yn arddangos cryfder gwaith partneriaeth a chydweithio cymunedol, gan gyfrannu at greu profiadau cadarnhaol ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd.

Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys:

  • Eisteddfod yr Urdd a phentref chwaraeon Môn Actif a'r Urdd.
  • Digwyddiad seiclo a gŵyl gymunedol yn Y Parc ar y cyd â Chyngor Tref Caergybi.
  • Digwyddiad Gemau Stryd ym Mhencraig a gyflwynwyd ar y cyd â'r Tîm Gofal Plant a Chwarae.
  • Gwersyll cymunedol ym Mhorth Amlwch a phrosiect datblygu trac beiciau mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Tai.
  • Digwyddiad Mencap yng Nghanolfan Hamdden David Hughes ar y cyd â Chwaraeon Anabledd Cymru a'r Gwasanaethau Oedolion.
  • Darparu Gwersylloedd Beicio Mynydd a Syrffio mewn partneriaeth â Pellenig.
  • Darparu gweithgareddau cymunedol gyda Chlwb Chwaraeon Rhosneigr, Plas Newydd, Llu Awyr Brenhinol y Fali a Neuadd Bentref Bodorgan.

Mae'r rhaglen yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Môn Actif i wella cyfleoedd i unigolion a theuluoedd fod yn actif a chysylltu â'u cymunedau lleol.

Dyweddod Barry Edwards, rheolwr datblygu chwaraeon: "Hoffwn estyn fy niolch diffuant i holl staff Môn Actif, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner sydd wedi mynd tu hwnt i ddisgwyliadau unwaith eto i ddarparu rhaglen mor eang a llwyddiannus."

"Roedd ansawdd gwaith partneriaeth a chydweithio ledled yr Ynys yn eithriadol ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd i gyflawni nod gyffredin."

"Rhaid diolch yn arbennig hefyd i'r miloedd o blant a phobl ifanc a gymerodd ran yn y gweithgareddau. Eu brwdfrydedd, eu hegni a'u parodrwydd i gymryd rhan sy'n gwneud y rhaglenni yma mor llwyddiannus."

"Rydym yn falch o ddarparu cyfleoedd sy'n cynorthwyo pobl ifanc i fod yn actif, gwneud ffrindiau newydd a mwynhau profiadau cadarnhaol yn eu cymunedau."

Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer gwyliau'r haf, yn ogystal â pharhau i ddatblygu gweithgareddau wythnosol i blant a phobl ifanc mewn cymunedau lleol.

Rhoddir sylw arbennig i gynyddu cyfleoedd ar gyfer plant dan bump oed a chryfhau cefnogaeth trwy bartneriaethau gyda StreetGames, bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, gwasanaethau cefnogi teuluoedd, Actif Gogledd Cymru a Chwaraeon Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, sy'n dal y portffolio hamdden yng Nghyngor Ynys Môn: "Mae'r gwaith a gyflawnwyd gan Môn Actif a'i bartneriaid yn ystod y gwyliau hanner tymor yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall chwaraeon, chwarae a gweithgarwch corfforol ei gael ar fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd ym mhob cwr o Ynys Môn."

"Mae'r gweithgareddau hyn yn cefnogi'r uchelgeisiau a nodir yn y Cynllun Strategol Môn Actif 2024-2029 yn uniongyrchol trwy greu cyfleoedd i blant fyw bywydau iachach, hapusach a mwy actif."

"Ni ellir tanbrisio buddiannau iechyd a llesiant cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Mae bod yn gorfforol actif yn helpu pobl i fyw bywydau iach a llawn boddhad, lleihau'r risg o salwch difrifol, hybu hunan barch a chefnogi llesiant meddwl cadarnhaol."

"Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at wneud y rhaglen hon yn gymaint o lwyddiant ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith pwysig hwn yn parhau trwy gydol yr haf a thu hwnt."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Ian

    10:00am - Noon

    Dwy awr o gerddoriaeth gwych yng nghwmni Ian.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'