Mae perchennog ci wedi cael dirwy am dorri gwaharddiad tymhorol o ardaloedd chwarae.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, cafwyd perchennog o ardal Y Bala yn euog o ganiatáu i'w gi fynd i mewn i ardal lle mae cŵn wedi'u gwahardd, ac am fethu â chodi ar ei ôl.
Ers 2013, mae gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus sy'n golygu ei bod yn drosedd i fynd a chŵn i ardaloedd chwarae penodedig ar gyfer plant, tir ysgol, caeau chwaraeon a rhai traethau rhwng mis Ebrill a mis Medi.
Gall hyn arwain at gosb yn y fan a'r lle o £100 neu erlyniad gyda chosb o uchafswm o £1,000.
Derbyniodd y perchennog ddirwy o £452.00.
Dyweddod y Cynghorydd June Jones, aelod y cabinet dros wasanethau stryd: "Mae'r achos hwn yn anfon neges glir nad yw'r cyngor yn goddef ymddygiad sy'n tanseilio glendid, diogelwch a mwynhad ein mannau cyhoeddus. Byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi cadarn lle bo angen."
Mae'r cyngor wedi ymestyn gorchmynion rheoli cŵn tan 14 Awst 2027.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae'r cyngor yn darparu bagiau baw cŵn am ddim o'r tair Siop Gwynedd (Caernarfon, Dolgellau, Pwllheli) ac o lyfrgelloedd Gwynedd. Gellir gwaredu bagiau baw cŵn mewn biniau sbwriel cyhoeddus, biniau baw cŵn, neu finiau olwyn gwyrdd."
"Os oes gennych dystiolaeth fod rhywun yn caniatáu i'w ci faeddu mewn man cyhoeddus a heb ymdrech i'w glirio, gallwch gysylltu yn gyfrinachol gyda'r cyngor er mwyn i wardeiniaid gorfodaeth stryd ymchwilio i'r mater."


Cyfrif terfynol tan Eisteddfod yr Urdd
Ymosodiad honedig yn dilyn gêm ddarbi pêl-droed
Bangor: cyhuddo dyn o fyrgleriaeth a herwgipio
Carcharu 'ysglyfaethwr' am gam-drin hanesyddol
Archwiliad arall ar Bont y Borth