Mae cyfarwyddwr cwmni eiddo wedi cael dedfryd o garchar wedi'i gohirio yn dilyn marwolaeth prentis saer 18 oed o Fae Trearddur.
Roedd Chloe Bidwell yn gweithio i Varcity Living mewn eiddo preswyl ar Ffordd Deiniol, Bangor ym mis Rhagfyr 2023.
Roedd yr eiddo yn cael ei adnewyddu’n llwyr pan syrthiodd pentwr o ddeunydd bwrdd pren, gan anafu Miss Bidwell yn angheuol.
Roedd Miss Bidwell wedi bod yn gweithio ar ei phen ei hun ar adeg y digwyddiad a chafodd ei darganfod yn farw yn yr eiddo ar ôl iddi fethu ag ymateb i negeseuon na dychwelyd adref.
Roedd cymysgedd o ddeunyddiau bwrdd wedi’u pentyrru’n fertigol ac heb eu sicrhau yn erbyn wal. Credir ei bod hi o bosibl wedi bod yn ceisio nôl bwrdd pren haenog o’r pentwr pan syrthiodd rhai o’r byrddau arni, gan falu ei gwddf ac achosi anafiadau angheuol.
Roedd 28 o fyrddau i gyd, o ddimensiynau mawr ac o bosibl yn pwyso hyd at 30kg yr un. Ni wnaed unrhyw ymgais i sicrhau’r byrddau yn eu safle unionsyth, ac nid oedd y risg y byddent yn cwympo wedi’i nodi.
Canfu ymchwiliad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) fod cwmni Varcity Living wedi methu â darparu systemau gwaith diogel ac wedi methu â darparu gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwyliaeth ddigonol, cyn belled ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.
Canfu’r ymchwiliad hefyd fod y methiannau hyn yn ganlyniad i esgeulustod y cyfarwyddwr David Horrocks.
Yn benodol, canfu ymchwilwyr nad oedd goruchwyliaeth ddigonol ar y safle, nad oedd polisi na gweithdrefn addas ar gyfer gweithio ar ei phen eich hun, nad oedd polisi na gweithdrefn addas ar gyfer storio deunyddiau bwrdd, ac nad oedd asesiad risg digonol cyn y digwyddiad.
Mae canllawiau’r HSE ar bentyrru deunyddiau yn nodi bod rhaid storio deunyddiau adeiladu yn ddiogel fel na allant ddymchwel na rholio drosodd.
Dylid storio byrddau’n llorweddol ar arwyneb gwastad gan ddefnyddio paledi neu estyll addas a rhaid peidio byth â’u pentyrru ar eu hymyl heb gefnogaeth ddigonol.
Mae canllawiau’r HSE ar weithio ar eich pen eich hun hefyd yn nodi, lle mae gweithio ar eich pen eich hun yn digwydd, y dylid cael mwy o hyfforddiant, goruchwyliaeth a monitro, gan gynnwys gweithdrefnau i gadarnhau bod gweithiwr sy’n gweithio ar ei ben ei hun wedi dychwelyd yn ddiogel ar ôl i’w dasg gael ei chwblhau.
Plediodd Varcity Living yn euog i dorri Adrannau 2(1) a 3(1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974.
Ym Llys Ynadon Wrecsam ddydd Iau, dirwywyd y cwmni £50,000 a gorchmynnwyd iddo dalu £10,080 mewn costau yn Llys Ynadon Llandudno ar 9 Gorffennaf 2026.
Plediodd David Horrocks, o'r Felinheli, yn euog i dorri Adran 37 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974. Dedfrydwyd ef i 26 wythnos o garchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd, a gorchmynnwyd iddo dalu £7886 mewn costau.
Dywedodd mam Chloe, Clare Stephenson-Brown: “Dim ond 18 oed oedd Chloe, yn llawn bywyd, egni, a phenderfyniad."
"Roedd ganddi gymaint o dalentau a breuddwydion: saer coed medrus, chwaraewr rygbi, syrffiwr, neidiwr awyr, a menyw ifanc a oedd ar fin teithio’r byd a dechrau ei thaith tuag at fod yn ddiffoddwr tân. Roedd hi’n ddoeth y tu hwnt i’w hoedran, yn ddewr, ac yn hynod o gadarn."
"Bu farw Chloe ar unwaith ac ar ei phen ei hun. Mae’r ffaith ei bod ar ei phen ei hun yn yr eiliadau olaf hynny yn rhywbeth sy’n achosi poen annioddefol i ni a rhywbeth y byddwn ni’n ei gario am byth."
"Mae gwybod pa mor llawn bywyd oedd hi a faint nad oedd hi wedi’i brofi eto yn gwneud ei cholled yn amhosibl i’w derbyn."
"Fel teulu, rydym yn teimlo fel pe bai Chloe wedi cael ei siomi yn y gwaith, ac oherwydd hynny, rydym wedi ei cholli am byth. Ni fydd ein bywydau byth yr un fath eto."
"Rydym yn gobeithio y bydd y rhai sy’n gyfrifol yn deall maint yr hyn sydd wedi digwydd yn wirioneddol, nid yn unig colli bywyd Chloe, ond y dinistr a achoswyd i’w theulu, ei ffrindiau, a’i chymuned.'"
Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio na chaiff yr achos hwn ei ystyried o ran y canlyniad yn y llys yn unig, ond fel atgof llym o’r gost ddynol wirioneddol y tu ôl iddo. Mae effaith colli Chloe yn ymestyn ymhell y tu hwnt i unrhyw ddedfryd a bydd yn aros gyda ni am byth."
"Rydym yn annog cyflogwyr i edrych y tu hwnt i gydymffurfiaeth ac ystyried yn wirioneddol y cyfrifoldeb sydd ganddynt am y bywydau yn eu gofal."
"Rhaid i ddiogelwch fod yn ystyrlon yn ymarferol, gan sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli’n iawn, bod gweithio ar eich pen eich hun yn ddiogel, a bod pawb sy’n mynd i’r gwaith yn dychwelyd adref.”
Dywedodd Rachael Newman, arolygydd HSE: "Roedd Chloe Bidwell yn brentis saer ifanc ar ddechrau ei gyrfa. Roedd ganddi bob hawl i ddisgwyl y byddai ei chyflogwr yn cymryd y camau sylfaenol oedd eu hangen i’w chadw’n ddiogel yn y gwaith."
"Roedd gan ei theulu bob hawl i ddisgwyl, pan fyddai Chloe yn mynd i’r gwaith, y byddai hi’n dod adref."
"Mae trychineb marwolaeth Chloe yn cael ei gwneud hyd yn oed yn fwy ysgytwol oherwydd ei bod mor gwbl osgoadwy. Ni ddylai prentisiaid fod yn gweithio ar eu pen eu hunain ar safle adeiladu, a bu farw Chloe mewn amgylchiadau na ddylent fod wedi gallu digwydd byth."
"Nid oedd gan gyflogwr Chloe, Varcity Living Limited, system storio ddiogel ar waith ar gyfer y byrddau peryglus o drwm a oedd wedi’u pentyrru’n unionsyth ac yn gwbl heb eu diogelu."
"Ar ben hynny, roeddent wedi methu â darparu’r wybodaeth, y cyfarwyddyd, yr hyfforddiant a’r oruchwyliaeth angenrheidiol i’w prentis ifanc."
"Ni all canlyniad heddiw ddod â Chloe yn ôl, ond rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd a roddwyd yn dod â rhywfaint o gysur i’w theulu, y mae eu bywydau’n parhau hebddi. Maent yn parhau yn ein meddyliau, ac rydym yn cynnig ein cydymdeimlad dwysaf iddynt."


Dynes ifanc wedi marw yng Ngŵyl Tonnau
Gweinidog yn agor estyniad Ysgol y Graig
Ymgeisydd annibynnol yn ennill isetholiad Llanrug
Carcharu dyn o Gaergybi am luniau anweddus
Ditectif yn euog o edrych ar gofnodion yn anghyfreithlon