Mae dyn wedi cael ei arestio ynglŷn â difrod troseddol a achoswyd i gerflun David Lloyd George yng Nghaernarfon.
Ar ddydd Mawrth, mi gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu hysbysu eu hysbysu bod difrod wedi’i achosi i’r cerflun, sydd wedi’i leoli ar y Maes yn y dref.
Roedd graffiti coch ar y cerflun gyda geiriau a sloganau yn galw am 'Balesteina Rydd' ac yn galw Lloyd George, cyn-brif weinidog y DU, yn wladychwr.
Mi gafodd dyn 38 oed, o ardal Penmaenmawr, ei arestio dydd Iau o dan amheuaeth o achosi difrod troseddol.
Mae’r dyn eisoes wedi’i ryddhau ar amodau mechnïaeth llym wrth i ymholiadau barhau.


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi