Mae dyn yn ddifrifol wael yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic cwad ar draeth Y Bermo.
Mae'r heddlu'n ymchwilio i ddigwyddiad yn ymwneud â beiciau cwad coch a gwyrdd toc cyn 7.10pm nos Sadwrn.
Cafodd beiciwr y beic cwad coch ei gludo mewn hofrennydd i uned trawma arbenigol yn ysbyty Stoke, lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am dystion i ddod ymlaen.
Dywedodd PC Owain Roberts o'r Uned Plismona'r Ffyrdd: "Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y beiciau cwad coch a gwyrdd cyn y gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi dal y naill gerbyd neu'r llall ar dashcam, teledu cylch cyfyng, camera cloch drws neu ffilmiau ffôn symudol.
"Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn siarad ag unrhyw un a welodd y beic cwad coch a'r beic cwad gwyrdd yn teithio ochr yn ochr â'i gilydd yn yr eiliadau cyn y gwrthdrawiad."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod O115918.


Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi
Criwiau'n delio â thân gwyllt Pentrefelin
Carchar i ymosodwr rhyw o Gaernarfon
Gostyngiad mawr mewn pobl ifanc 'Neet'